Dathliad, hyfforddiant ac offer – Cefnogaeth newydd i’r celfyddydau awyr agored yng Nghymru

By 22nd Mehefin 2020Uncategorised @cy

Mae celf mewn mannau cyhoeddus yn rhan annatod o Gymru ddiwylliannol gyda’i gwyliau, theatr, actifiaeth, syrcas a defod ac mae bellach yn prysur ddod yn un o’r ffyrdd pwysig i helpu i lywio ein hadferiad.  Yr wythnos hon mae Articulture yn cyhoeddi rhaglen chwe mis newydd sy’n ceisio cryfhau celfyddydau awyr agored yng Nghymru, ac ysbrydoli drwy hyfforddiant, digwyddiadau zoom byw a phodlediadau.

Gall natur y celfyddydau awyr agored fel rhywbeth cynhwysol, chwyldroadol ac amrywiol chwarae rhan hanfodol yn yr iachâd sydd ei angen ar ein cymdeithas i ailadeiladu ei hun, gyda gweithio yn yr awyr agored yn ffordd bwysig ac ymarferol o weld a gwneud gwaith. Ffurfiwyd rhaglen newydd Articulture drwy ein gwaith yn ystod yr argyfwng Covid yn y misoedd diwethaf, ac fe’i hariannwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

Yn ogystal â’r rhaglen byddwn hefyd yn gwneud rhywfaint o waith creadigol mewnol, gyda chynlluniau busnes newydd a gwell hygyrchedd ar gyfer llwyfannau ar-lein.

I gael diweddariadau wrth i gyfleoedd fynd yn fyw – cofrestrwch ar ein rhestr bostio ar ein tudalen hafan, neu dilynwch ni ar FB a Twitter.

*Hyfforddiant – ‘Creu mewn Mannau Cyhoeddus’ – cwrs MOOC FAI-AR ac IN SITU

Mis Gorffennaf neu fis Medi

Datblygu eich sgiliau a’ch dealltwriaeth o greu gwaith artistig mewn mannau cyhoeddus ynghyd ag artistiaid, cynhyrchwyr, lleoliadau, rheolwyr tir ac eraill ledled Cymru gyda’r cwrs ar-lein am ddim ‘Creu Mewn Mannau Cyhoeddus’ gyda Articulture ym mis Gorffennaf neu fis Medi.

Wedi’i greu gan FAI-AR, unig raglen hyfforddi addysg uwch Ewrop ar gelf mewn mannau cyhoeddus, mewn cydweithrediad ag IN SITU ac Artcena, mae’r ‘MOOC’ (Cwrs Ar-lein Enfawr Agored) 4 wythnos yn llawn adnoddau ac ysbrydoliaeth i helpu cyfranogwyr i ddeall a chwarae rôl mewn creu gwaith artistig mewn mannau cyhoeddus. Wedi’i hwyluso gan Articulture, bob wythnos bydd y cyfranogwyr yn ymgymryd ag uned cwrs yn annibynnol, ac yna’n cwrdd ag eraill i gael trafodaeth ar y cyd i rannu mewnwelediadau a dysgu.

Yn dilyn rhediad cyntaf llwyddiannus yma yng Nghymru, gydag adborth cadarnhaol gan y rhai sy’n cymryd rhan, bydd galwad newydd i’r cyfranogwyr yn cael ei chylchredeg ddiwedd mis Mehefin.

‘Cwrs y byddwn yn ei argymell yn fawr i unrhyw un sydd â diddordeb mewn creu mewn mannau cyhoeddus’.

‘Roedd yn brofiad mor werthfawr ac mae wedi ailgynnau fy joie de vivre creadigol’

‘Ansawdd y cynnwys, manylrwydd y fframwaith deallusol, enghreifftiau hynod ddiddorol o waith’.

*Digwyddiadau byw a phodlediadau – Celfyddydau mewn mannau cyhoeddus yng Nghymru

Gorffennaf – Tachwedd

Cyfle i gymryd rhan weithredol wrth archwilio stori celfyddydau awyr agored yng Nghymru, ei phobl a’i phrosesau a helpu i adeiladu ei dyfodol, gyda chyfres newydd o ddigwyddiadau zoom byw a phodlediadau rhwng mis Gorffennaf a Thachwedd, gan edrych ar y themâu canlynol – 

Stori

‘Rydym yn breuddwydio mewn naratif, yn synfyfyrio mewn naratif, yn cofio, yn rhagweld, yn gobeithio, yn anobeithio, yn credu, yn amau, yn cynllunio, yn adolygu, yn beirniadu, yn adeiladu, yn hel clecs, yn dysgu, yn casáu ac yn caru drwy naratif. Er mwyn byw go iawn, rydym ni’n creu straeon amdanon ni ein hunain ac eraill, am y gorffennol personol yn ogystal â’r gorffennol cymdeithasol a’r dyfodol’. Barbara Hardy

Rydym yn eich gwahodd i rannu’ch profiadau drwy ddau ddigwyddiad byw’r haf hwn i’n helpu i ddechrau dogfennu a ffurfio stori gydweithredol o’r celfyddydau mewn mannau cyhoeddus yng Nghymru.

Gyda’i ddawn unigryw a’i allu pwerus i annog cyfranogiad a phartneriaethau buddiol ar draws pob sector o gymdeithas, mae’n bryd dwyn ynghyd y stori y gall pob un ohonom fod yn berchen arni a’i hadrodd, i eirioli dros y celfyddydau awyr agored fel allwedd i gefnogi cymunedau cynaliadwy yng Nghymru.

Pobl a Phrosesau

Cofiwch wrando ddechrau mis Gorffennaf ar ein casgliad o gyfweliadau byw a phodlediadau gan ystod o ymarferwyr sy’n creu yn y man cyhoeddus yng Nghymru o gefndiroedd celfyddydol a di-gelfyddydol ac ar bob cam o’u gyrfaoedd, yn rhannu eu harferion a’u prosesau.

Y dyfodol

Dewch i gymryd rhan mewn cyfres o ddigwyddiadau byw sy’n datblygu ac yn ymatebol a fydd yn dechrau ym mis Gorffennaf a fydd yn dod â rhywfaint o lawenydd, cariad a chysylltiad, yn ogystal â lle i rannu prosiectau, datblygu a datrys problemau wrth i ni freuddwydio a chreu gwaith newydd i mewn ac allan o Covid. 

Yn dilyn ymlaen o’r gwaith ar Stori, byddwn hefyd yn eich gwahodd i rannu eich mewnwelediad a’ch profiadau i helpu i ffurfio strategaethau ar gyfer dyfodol addysg a hyfforddiant ar gyfer y celfyddydau mewn mannau cyhoeddus yng Nghymru, gyda dau ddigwyddiad byw arbennig.

Delwedd – Krystal Lowe – ‘Whimsy’

Skip to main content