Creu mewn Ardal Gyhoeddus – Cwrs ar-lein am ddim – Gwanwyn 2020

By 3rd Ebrill 2020Uncategorised @cy

Beth yw ardal gyhoeddus? Pam bod artistiaid yn dewis gweithio yn y lleoedd anghonfensiynol hyn? Sut maent yn defnyddio’r ardaloedd hyn ar draws y byd? Pa fath o ddeddfwriaeth a nodweddion technegol sydd angen i weithwyr proffesiynol eu hystyried?

Ymunwch ag Articulture i ddatblygu eich sgiliau a dealltwriaeth o waith creadigol mewn ardaloedd cyhoeddus.

Ar ddydd Llun 30 Mawrth, bu ein ffrindiau yn FAI-AR yn ail-agor eu cwrs ar-lein am ddim, Creu mewn Ardal Gyhoeddus.

Bellach, gall unrhyw un gael mynediad at y ‘MOOC’ (Cwrs Ar-lein Agored Enfawr) dros 4 wythnos hwn, yn llawn offer ac ysbrydoliaeth i’ch helpu i ddeall a chwarae rôl mewn creu gwaith creadigol mewn ardal gyhoeddus.

Dysgwch am wahanol waith celf sydd wedi eu dylunio ar gyfer ardaloedd cyhoeddus, y ffordd y maent yn rhyngweithio gyda’i lleoliadau, a nodweddion penodol o ysgrifennu am y gynulleidfa a’u hymgysylltu yn y cyd-destun hwn.

Mae’r cwrs hwn yn agored i unrhyw un sydd â diddordeb mewn creu a dysgu mwy ynghylch celf mewn ardal gyhoeddus. Cofrestrwch yma nawr.

Mae 4 modiwl, a fydd yn cymryd tua 3 awr yr un i’w cwblhau.
Gallwch wneud y rhain ar eich cyflymder eich hun ac yn ôl eich amserlen eich hun, neu gallwch ddewis i ymuno â’r tîm Articulture a fydd yn cwblhau’r cwrs bob prynhawn Mercher.

Bydd y tîm Articulture hefyd yn cynnal trafodaeth fyfyriol amser cinio bob dydd Iau ar Zoom. Gweler ein hamserlen isod.

Ydych chi eisiau astudio gyda ni? Gweler ein hamserlen astudio isod ac e-bostiwch Rosie Strang – rosie@articulture-wales.co.uk i gofrestru eich diddordeb a derbyn y ddolen Zoom i ymuno â ni bob wythnos.

Wythnos 1
Dydd Mercher 15 Ebrill 3-6pm – Cyflwyniad i estheteg, hanes a sefydliadau
Dydd Iau 16 Ebrill 1-2pm – Trafodaeth fyfyriol ar Zoom gyda’r tîm Articulture

Wythnos 2
Dydd Mercher 22 Ebrill 3-6pm –  Materion dramayddiaeth penodol
Dydd Iau 23 Ebrill 1-2pm – Trafodaeth fyfyriol ar Zoom gyda’r tîm Articulture

Wythnos 3
Dydd Mercher 29 Ebrill 3-6pm – Ymweld á’r safle a methodoleg ysgrifennu yn ei le
Dydd Iau 30 Ebrill 1-2pm – Trafodaeth fyfyriol ar Zoom gyda’r tîm Articulture

Wythnos 4
Dydd Mercher 6 Mai 3-6pm – Deall materion sy’n ymwneud â’r berthynas gyda’r gynulleidfa
Dydd Iau 7 Mai 1-2pm – Trafodaeth fyfyriol ar Zoom gyda’r tîm Articulture

Skip to main content