Ymunwch â ni – Tirweddau Creadigol 2020

By 8th Medi 2020Uncategorised @cy

Tirweddau Creadigol 2020

Lansio’r Podlediad – Dydd Llun 21 Medi
Digwyddiadau Byw Ar-lein – Dydd Mercher 23 a Dydd Gwener 25 Medi

Cyfres o bodlediadau a digwyddiadau byw ar-lein rhad ac am ddim yw Tirweddau Creadigol sy’n archwilio ac yn dathlu cydweithredu creadigol rhwng artistiaid, cynhyrchwyr a rheolwyr tir yng Nghymru ac ar draws ffiniau, a’r gwaith buddiol ac ysbrydoledig yn yr awyr agored y gall cydweithredu ffrwythlon ei greu.

Mae angen arloesi, empathi a chynhwysiant i ymateb i heriau’r dyfodol. Ymunwch â ni wrth i ni rannu safbwyntiau ac archwilio’r hyn sy’n bosibl pan fyddwn ni’n gweithio gyda’n gilydd, yma yng Nghymru, a ledled y byd.

Yn cael ei gynnal fel rhan o Ŵyl Afon Dyffryn Gwy – wedi’i hail-ddychmygu ar-lein ar gyfer 2020 – ac fel rhan o wythnos ‘Tirweddau am Oes’ Cymdeithas Genedlaethol yr Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol a gynhelir rhwng 21-25 Medi, mae Tirweddau Creadigol yn cael ei guradu gan Articulture, ar y cyd â thîm yr Ŵyl.

Am raglen lawn ewch yma

Ymhlith y cyfranwyr bydd

  • Sarah Sawyer – Swyddog Cysylltiadau Cymunedol, AHNE Dyffryn Gwy
  • Krystal Lowe – Dawnsiwr Llawrydd, Coreograffydd, Ysgrifennwr
  • Dr Ffion Reynolds – Rheolwr Treftadaeth a’r Celfyddydau, Cadw/Gwasanaeth yr Amgylchedd Hanesyddol
  • Phil George – Cadeirydd, Cyngor Celfyddydau Cymru
  • Phill Haynes a Jon Beedell – Cynhyrchwyr Creadigol Gŵyl Afon Dyffryn Gwy
  • Clare Pillman – Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru
  • Georgina Harris – Cyfarwyddwr, Tin Shed Theatre
  • Marc Rees – Sylfaenydd a Churadur
  • David Gough – Artist, Ymarferydd Diwylliannol, Addysgwr, a Gwasanaethau Diwylliannol Brodorion Tasmania
  • Alison Neighbour – Dylunydd Cynhyrchu, Dylunio Perfformiad, Artist Gosodiadau
  • Matthew Gough – Addysgwr, Coreograffydd, Perfformiwr, Dramatwrg
  • Gavin Jones – Swyddog Ymgysylltu Cymunedol, Partneriaeth Lefelau Byw
  • Karine Décorne – Curadur a Chynhyrchydd Creadigol, a Chyfarwyddwr Artistig, Migrations
  • Carolyn Robertson – Rheolwr Prosiect, Parc Cenedlaethol Cairngorms
  • Joseph Roberts – Cynghorydd Arbenigol Arweiniol: Hamdden a Mynediad, Cyfoeth Naturiol Cymru
  • Simon Coates – Pennaeth Gwasanaethau Diwylliannol, Canolfan Celfyddydau Taliesin, Abertawe
  • Lisa Heledd Jones – StoryWorks

Mae’r ŵyl yn cael ei chefnogi gan Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Dyffryn Gwy, Croeso Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru.

Image / Delwedd – ^ WVRF Llandogo – Credit – Paul Blakemore

Skip to main content