Meithrin y celfyddydau mewn mannau cyhoeddus yng Nghymru drwy COVID 19

By 22nd Mehefin 2020Uncategorised @cy

Fel tîm bach o weithwyr llawrydd, mae Articulture wedi bod yn gwrando, cefnogi ac eirioli dros fudiad y celfyddydau awyr agored yng Nghymru yn ystod yr amser hwn o argyfwng a newid na welwyd ei fath o’r blaen.

Nawr ein bod wedi cyrraedd yr hyn a fyddai wedi bod y tymor brig rydym yn camu oddi ar y ‘corona-coaster’ i gael seibiant a myfyrio. Dyma ychydig o’r pethau rydym wedi bod yn eu gwneud –

Hwyluso grŵp astudio ledled Cymru ar gyfer hyfforddiant celfyddydau awyr agored ar-lein ‘Creu mewn Mannau Cyhoeddus’ gydag artistiaid a chynhyrchwyr.

Ym mis Ebrill a Mai ymunodd wyth o artistiaid a chynhyrchwyr o Gymru ac un o’r Eidal â’r tîm Articulture i ddatblygu eu sgiliau a’u dealltwriaeth o greu gwaith artistig mewn mannau cyhoeddus gyda chwrs ar-lein am ddim ‘Creu Mewn Mannau Cyhoeddus’. Cynhyrchwyd y ‘MOOC’ (Cwrs Ar-lein Enfawr Agored) hwn gan FAI-AR, unig raglen hyfforddi addysg uwch Ewrop ar gelf mewn mannau cyhoeddus, mewn cydweithrediad â llwyfan IN SITU ledled Ewrop a sefydliad cenedlaethol Ffrainc Artcena.

Mae’r cwrs 4 wythnos yn llawn adnoddau ac ysbrydoliaeth i helpu cyfranogwyr i ddeall a chwarae rôl mewn creu artistig mewn mannau cyhoeddus. Bob wythnos, ymgymerodd y cyfranogwyr ag uned yn annibynnol, cyn cyfarfod ar Zoom i siarad am eu dysgu, wedi’i hwyluso gan Articulture.

Mewn amser o ansicrwydd mawr a’r cyfnod cloi roedd y cwrs yn llwyddiant ysgubol, gan danio ysbrydoliaeth newydd a dod â grŵp o bob rhan o Gymru ynghyd i gysylltu a chefnogi ei gilydd. Roeddem yn meddwl bod y cwrs yn rhagorol gydag un cyfranogwr – Jenny Hall yn ei grynhoi fel hyn:

‘Ansawdd y cynnwys, manylrwydd y fframwaith deallusol, enghreifftiau hynod ddiddorol o waith’.

Roedd yn amlwg o’r adborth bod y cwrs wedi cael effaith ar unwaith ar gynhyrchu syniadau, gwaith a phartneriaethau newydd –

‘Roedd yn brofiad mor werthfawr ac mae wedi ailgynnau fy joie de vivre creadigol’ – Marc Rees

‘Rwyf wedi cwrdd â phobl anhygoel nad oeddwn yn eu hadnabod o’r blaen, ac rwy’n bwriadu cadw mewn cysylltiad â nhw yn y dyfodol’ Iwan Williams

‘Rwy’n credu bod pawb yn y grŵp yn agored ac yn hael iawn ac fe wnes i fwynhau’r cysylltiadau rydym wedi’u hadeiladu’ – Olga Kaleta.

Roedd yr holl gyfranogwyr yn argymell bod Articulture yn cynnal y cwrs eto –

‘Mae’n offeryn gwych a bydd yn amhrisiadwy fel man cychwyn i bobl sy’n gwneud gwaith yng Nghymru’ – Gwyn Emberton.

Cynnal dros ugain o sgyrsiau anffurfiol un i un gydag artistiaid a chynhyrchwyr.

Mae Articulture ers blynyddoedd lawer wedi gweithredu fel cymysgedd o ‘seinfwrdd’ a ‘gwasanaeth ymholi’ ac yn y modd hwn mae’r tîm wedi gallu cynnig cefnogaeth o bob math drwy gyfeirio, mentora, ymweliadau safle ac ymarfer a chefnogaeth codi arian.

Yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf mae hyn wedi parhau gyda sgyrsiau anffurfiol dros y ffôn neu zoom wrth i bobl ddod o hyd i’w ffordd, gan geisio cefnogaeth ariannol a llywio creu gwaith mewn byd gwahanol. Mae wedi bod yn broses ddysgu ryfeddol, ysbrydoledig, bryderus a pharhaus. Mae’r cynnig ar gael o hyd – ac yn ein helpu i gadw’n wybodus – felly cofiwch gysylltu os ydych yn meddwl y gallai fod yn ddefnyddiol i chi.

Cymryd rhan mewn dros ugain o gyfarfodydd rhyngwladol gyda rhwydweithiau blaenllaw gan gynnwys Outdoor Arts UK, National Association of Street Artists, Circostrada, What’s Next Cymru, yn cynrychioli celfyddydau awyr agored yng Nghymru ac yn casglu gwybodaeth ac adnoddau.

Gyda newidiadau cyflym yr ychydig fisoedd diwethaf, mae wedi bod yn hanfodol i Articulture gadw mewn cysylltiad â’r rhwydweithiau celfyddydau awyr agored yr ydym yn aelodau ohonynt, yn ogystal â thrafodaethau ar-lein allweddol eraill. Ein nod yw parhau i rannu’r safbwyntiau a’r newyddion o Gymru ochr yn ochr â chwilio am gyfleoedd, syniadau ac adnoddau. Mae llawer o’r cyfarfodydd hyn yn agored – mae OAUK a NASA wedi ildio’u ffioedd aelodaeth yn ystod y cyfnod hwn, felly rydym hefyd wedi bod yn hyrwyddo’r gefnogaeth sydd ar gael i’r rheini sydd wedi’u lleoli yng Nghymru.

Sefydlu a chymryd rhan mewn grŵp rhwydwaith celfyddydau awyr agored ‘Pum Gwlad’ – gyda chynrychiolwyr eraill yn y DU i rannu newyddion a chefnogi ein gilydd.

Un o ganlyniadau cadarnhaol y cyfnod diweddar fu’r cysylltiadau a’r ffyrdd newydd o weithio yr ydym wedi’u profi. Mae grŵp rhwydwaith celfyddydau awyr agored y Pum Gwlad yn un sydd wedi’i drafod ers tro, felly mae’n wych ei fod bellach wedi’i sefydlu!

Yn grŵp cymharol newydd, bu ein ffocws ar rannu a chefnogi hyd yn hyn, ond mae cynlluniau i ddechrau gwaith grŵp o amgylch tasgau penodol, megis cyd-greu adnoddau a mentora ar gynllunio busnes… cadwch lygad!

Cyflwyno ein harsylwadau ac argymhellion i Gyngor Celfyddydau Cymru.

Gyda’r buddsoddiadau sylweddol y mae Articulture a Chyngor Celfyddydau Cymru (CCC) wedi’u gwneud yn natblygiad y mudiad celfyddydau awyr agored dros yr wyth mlynedd diwethaf, mae Articulture yn awyddus i beidio â diystyru celfyddydau awyr agored yn ystod yr amser hwn, gyda gweithwyr llawrydd sy’n ffurfio rhan fwyaf o’r mudiad yn cael eu cefnogi. 

Drwy sgyrsiau gydag artistiaid, cynhyrchwyr a rhwydweithiau eraill rydym wedi gallu cael cipolwg ar effaith Covid 19 ar y bobl greadigol hynny – gweithwyr llawrydd yn bennaf – sy’n gweithio yn y celfyddydau awyr agored ac i fwydo i mewn i CCC wrth i’w cynlluniau i gefnogi’r celfyddydau a diwylliant yng Nghymru barhau i gael eu llunio a’u cyflwyno.

Edrych ymlaen

Wrth i’r cyfyngiadau symud gael eu llacio, rydym yn parhau i gysylltu, cefnogi, rhannu a chynllunio ar gyfer y dyfodol.

Teimlwn y bydd natur gymunedol a chynhwysol y celfyddydau awyr agored yn hanfodol i’r iachâd y bydd ei angen ar gymdeithas i ailadeiladu ei hun ar ôl yr argyfwng hwn, ac y bydd gweithio yn yr awyr agored yn dod yn opsiwn pwysig ac ymarferol ar gyfer gweld a gwneud gwaith.

Er nad yw’r rhwydwaith celfyddydau awyr agored yma eto mewn sefyllfa i gael unrhyw un yn cael ei gyflogi’n rheolaidd, rydym wedi ymrwymo i barhau i adeiladu ar y twf gwych y mae’r mudiad wedi’i weld yma yng Nghymru, fel rhan werthfawr o’n hunaniaeth artistig genedlaethol. Gyda chyllid sefydlogi CCC bellach ar waith, ym mis Mehefin bydd Articulture yn cyhoeddi rhaglen chwe mis o gyfleoedd newydd i gefnogi creu celf mewn mannau cyhoeddus wrth symud ymlaen.

Delwedd – grŵp cwrs MOOC Cymru ‘Create in Public Space’, Ebrill 2020

Skip to main content