Gweithdy Rhagarweiniol – Archwilio Naratif – Theatr safle-benodol
Dydd Llun 19 Hydref – 2 – 3.30yp
Mewn partneriaeth â Frân Wen
Dadbaciwch straeon cyfoethog ac amrywiol eich ardal, ac archwiliwch y posibiliadau y mae theatr safle-benodol yn eu cynnig wrth dynnu ynghyd cymunedau, trawsnewid gofod a creu lleoedd yn y tymor hir.
Gweithdy rhagarweiniol gyda Frân Wen mewn cydweithrediad ag Articulture, mae’r cyfle hwn yn benodol ar gyfer pobl ifanc yn y camau cychwynnol o archwilio rôl naratif o fewn theatr safle-benodol – artistiaid sy’n dod i’r amlwg, awduron, dramaturgs. Byddwn yn canolbwyntio ar y straeon, digwyddiadau a chymeriadau y gall lleoliadau eu cynnig i ni, gan ddechrau gyda’n gofodau lleol ein hunain, yn ogystal ag edrych ar rai o’r straeon mwyaf epig a adroddwyd yn ddiweddar yng Nghymru drwy theatr safle-benodol.
I gymryd rhan – Bydd angen cysylltiad WIFI, Zoom, llyfr nodiadau/cyfnodolyn, beiro/pensel arnoch chi.
Dewisol – Ymunwch hanner awr yn gynt am 1.30pm neu am hanner awr ar ôl y gweithdy i ddweud helo, dal i fyny a gofyn cwestiynau gyda Frân Wen ac Articulture.
I archebu – Ebostiwch rosie@articulture-wales.co.uk ymlaen llaw.
Rydym yn croesawu’n gynnes bobl o bob cefndir, diwylliant a gallu gan gynnwys Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig/POC, ffoadur, B/byddar, anabl, niwroddargyfeiriol, dosbarth gweithiol a /neu LGBTQI+ i’r gweithdy hwn. Gofynnwch os hoffech drafod gofynion mynediad ymlaen llaw, fel y gallwn sicrhau y gallwn ddarparu cyfleusterau i chi gymryd rhan.
Frân Wen
Rydyn ni’n gweld, gwrando, gwerthfawrogi, herio a chredu mewn pobl ifanc.
Wedi’i sefydlu ym 1984, rydym yn gwmni theatr iaith Cymraeg i bobl ifanc sy’n ymfalchïo mewn creu a rhannu theatr eofn.
Rydym yn herio’r canfyddiad traddodiadol o’n hunaniaeth wrth estyn allan, gwreiddio ein hunain yn y gymuned, gwrando ar leisiau na chlywir ac ymateb trwy rannu theatr. Trwy ein gwaith cyfranogi ac ymgysylltu, rydyn ni’n rhoi cynhwysedd wrth galon ein gwaith, gan ddefnyddio’r celfyddydau i wella iechyd a lles ein cymdeithas.
Trwy ryddhau creadigrwydd gallwn greu byd mwy cyfartal a lliwgar.
Gwnaethpwyd y prosiect hwn yn bosibl gydag arian gan Gronfa Loteri Genedlaethol Cyngor Celfyddydau Cymru.
Delwedd – Articulture Gathering – Keith Morris