Ymunwch ag Articulture ac eraill ledled Cymru’r hydref hwn i ddatblygu eich sgiliau a’ch dealltwriaeth o greu artistig mewn mannau cyhoeddus gyda chwrs ar-lein am ddim FAI-AR, ‘Creu Mewn Mannau Cyhoeddus’, sy’n dechrau ar ddydd Llun 2 Tachwedd.
Beth yw man cyhoeddus? Pam fod artistiaid yn dewis gweithio yn y lleoedd anghonfensiynol hyn? Sut maent yn defnyddio’r ardaloedd hyn ar draws y byd? Pa fath o ddeddfwriaeth a nodweddion technegol sydd angen i weithwyr proffesiynol eu hystyried?
Crëwyd ‘Creu Mewn Mannau Cyhoeddus‘, sy’n agored i unrhyw un sydd â diddordeb mewn creu a dysgu mwy am gelf mewn mannau cyhoeddus, gan FAI-AR, unig raglen hyfforddi addysg uwch Ewrop ar gelf mewn mannau cyhoeddus, mewn cydweithrediad â llwyfan IN SITU ledled Ewrop a sefydliad cenedlaethol Ffrainc Artcena.
Mae’r cwrs yn llawn adnoddau ac ysbrydoliaeth i’ch helpu i ddeall a chwarae rôl mewn creu artistig mewn mannau cyhoeddus. Dysgwch am wahanol waith celf sydd wedi’u dylunio ar gyfer mannau cyhoeddus, y ffordd y maent yn rhyngweithio gyda’u lleoliadau, a nodweddion penodol o ysgrifennu am y gynulleidfa a’u hymgysylltu yn y cyd-destun hwn.
Rhennir y cwrs yn bedwar modiwl, pob un yn gofyn am oddeutu 3 awr o astudio annibynnol bob wythnos. Yn ategu’r astudiaeth hon mae’r gwahoddiad i gwrdd fel grŵp rhwng modiwlau i drafod dysgu.
Mae’r amserlen astudio ar gyfer Hydref 2020 fel a ganlyn –
- Llun 2 Tachwedd – 11.30am – 1pm – Cyfarfod grŵp cyntaf – Cyflwyniadau
- Llun 9 Tachwedd – 11.30am – 1pm – Cyfarfod grŵp Wythnos 1
- Llun 16 Tachwedd – 11.30am – 1pm – Cyfarfod grŵp Wythnos 2
- Llun 23 Tachwedd – 11.30am – 1pm – Cyfarfod grŵp Wythnos 3
- Llun 30 Tachwedd – 11.30am – 1pm – Cyfarfod grŵp Wythnos 4
- Llun 7 Rhagfyr – 11.30am – 1pm – Aduniad grŵp
Mae’r grŵp astudio hwn yn croesawu pobl o bob cefndir, diwylliant a gallu yn cynnwys pobl o gefndiroedd du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, ffoaduriaid, pobl fyddar, anabl, niwro-ddargyfeiriol a dosbarth gweithio a/neu LGBTQI+. Rydym yn croesawu trafodaeth ar ofynion mynediad sydd gennych, a gallwn ddarparu cyfleusterau lle mae angen.
Ydych chi eisiau astudio gyda ni? E-bostiwch rosie@articulture-wales.co.uk i gofrestru eich diddordeb a thrafod unrhyw ofynion mynediad sydd gennych.
Llefydd cyfyngedig ar gael. Dyddiad cau Dydd Iau Hydref 22ain.
Roedd y prosiect yma’n bosibl gydag arian y Loteri Genedlaethol drwy Gyngor Celfyddydau Cymru.