Gweithdy – Sut mae ymgorffori mynediad yn cynnig anturiaethau creadigol newydd i bawb
Dydd Mawrth 1 Rhagfyr 11:30yb – 1yp
Mewn partneriaeth â Taking Flight Theatre
Darperir dehongliad a Phalanteipydd Iaith Arwyddion Prydain
Ydych chi’n creu neu’n meddwl am greu gwaith celf neu brosiect tu allan ar hyn o bryd?
Mae’r gweithdy creadigol hwn yn archwilio sut mae meddwl am sut brofiad fydd deillion a phobl â nam ar eu golwg yn ei gael o’ch gwaith o gychwyn datblygiad eich sioe yn gallu creu syniadau creadigol a chyfleoedd newydd a chyffrous.
Mae mynediad ar gyfer deillion a chynulleidfaoedd â nam ar eu golwg yn aml yn anodd dod o hyd iddynt, gyda theithiau cyffwrdd yn cael eu cynnal cyn sioe a disgfrifwyr sain yn disgrifio drwy glustffonau o’r golwg- ychwanegiad sy’n aml yn ôl-ystyriaeth. Mae’r gweithdy gweithredol hwn yn troi’r dull hwn ar ei ben! Mae Elise Davison (Cyfarwyddwr Artistig, Taking Flight) a Tafsila Khan (Blind Spot Consultancy) yn rhannu eu profiadau o integreiddio disgrifiad sain fel ei fod yn fyw, yn rhan o’r hyn sy’n digwydd ac yn cael ei ystyried drwy gydol y daith greadigol yn ei chyfanrwydd. Archwiliwch ddull sy’n dod â gweledigaeth hollol newydd yn fyw er mwyn darganfod anturiaethau creadigol, a phrofiad mwy ystyrlon ar gyfer holl aelodau’r gynulleidfa.
I gymryd rhan – Byddwch angen cysylltiad â’r we, llyfr nodiadau/dyddlyfr, pensil/pin ysgrifennu.
Archebu lle – Email rosie@articulture-wales.co.uk ymlaen llaw.
Rydym yn rhoi croeso cynnes i bobl o bob cefndir, diwylliant a gallu i’r gofod hwn.
Gofynnwch i ni os ydych eisiau trafod unrhyw ofynion mynediad penodol eraill sydd gennych ymlaen llaw, er mwyn i ni sicrhau ein bod yn gallu darparu’r cyfleusterau i chi gymryd rhan.
Am Elise a Tafsila
Mae Tafsila Khan yn ymgynghorydd mynediad llawrydd â nam ar ei golwg yng Nghaerdydd. Mae ei chwmni Blindspot Consultancy yn hwyluso darpariaeth o’r un profiad yn y theatr ar gyfer person dall neu rywun â nam ar y golwg â pherson sy’n gallu gweld yn glir. Mae Tafsila hefyd yn cyflwyno hyfforddiant ymwybyddiaeth weledol ar gyfer lleoliadau a chwmnïau ledled Cymru.
Elise yw cyd-sylfaenydd, Cyfarwyddwr Artistig ac un o ddau Brif Swyddog Gweithredol Taking Flight Theatre, cwmni theatr cynhyrchu, sy’n gwneud gwaith gyda chastiau integredig o actorion proffesiynol anabl/D/byddar/HOH ac actorion nad ydynt yn anabl sy’n ystyried mynediad yn ganolog i’r weledigaeth greadigol. Mae Elise hefyd yn gweithio fel Cynghorydd Mynediad Creadigol: gan weithio gydag ymgynghorwyr D/byddar ac anabl i gynghori cwmnïau ynghylch ffyrdd y gallant integreiddio mynediad i’w gwaith mewn modd creadigol gan ei wneud yn hygyrch i gymaint o bobl â phosib.