Ail-ddychmygu Gwyliau ar-lein – Adlewyrchu ar Faes ‘Field of Dreams’ Gŵyl y Dyn Gwyrdd 2020
Dydd Mawrth 29 Medi 1pm – 2.30pm
Mewn partneriaeth â Hijinx a Gŵyl y Dyn Gwyrdd
Mae camu i’r byd rhithwir eleni wedi bod yn broses ddysgu fawr yn llawn heriau a chyfleoedd i’r celfyddydau awyr agored.
Ymunwch â thîm Gŵyl y Dyn Gwyrdd ac artistiaid gan gynnwys Hijinx, Krystal Lowe a Chloë Clarke i fyfyrio a holi:
*Sut mae’r fformat newydd wedi effeithio ar ryngweithio a hygyrchedd y gynulleidfa?
*Beth oedd manteision a heriau’r broses greadigol?
*Ac i ble’r awn ni oddi yma?
Mae’r digwyddiad yn cynnwys cyfle i fwynhau bar Metamorffosis Hijinx, sesiwn holi-ac-ateb agored gyda gwesteion a chyfle i rwydweithio a dal i fyny ag eraill, yn ogystal ag ambell syrpreis!
Darperir Iaith Arwyddion Prydain, Sgrindeitlo a chyfieithu ar y pryd Cymraeg/Saesneg. Rydym yn croesawu’n gynnes bobl o bob cefndir, gallu a diwylliant gan gynnwys Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig/pobl croenliw, ffoaduriaid, B/byddar, anabl, niwrowahanol, dosbarth gweithiol a/neu LGBTQI+ i’r man hwn.
I gymryd rhan byddwch angen mynediad i Zoom – cysylltwch â ni os oes angen cymorth technegol arnoch i’w ddefnyddio.
I archebu lle anfonwch e-bost at: – zoe@articulture-wales.co.uk
Ynglŷn â ‘Field of Dreams’ Gŵyl y Dyn Gwyrdd 2020
Maes ‘Field of Dreams’ Gŵyl y Dyn Gwyrdd oedd yr ŵyl maes gwyrdd wedi cael ei hail-ddychmygu ar-lein ar gyfer 2020 a’i ffrydio ar sgriniau trwy dudalennau Facebook, Youtube a Mixcloud am un penwythnos ym mis Awst.
Roedd yn cynnwys ffilmiau o’r archif o setiau Dyn Gwyrdd na welwyd erioed o’r blaen, dangosiadau ffilm, gweithdai a rhaglen o’r celfyddydau perfformio, gyda sioeau a gomisiynwyd yn arbennig gan berfformwyr o Gymru gan gynnwys Krystal Lowe, Kitsch & Sync, Pocket Rocket Productions, The Wheelabouts, The Circus of Truths, Hijinx a Light Ladd & Emberton, yn ogystal â chelfyddydau digidol gan artistiaid y mae eu gweithiau wedi ymddangos yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd – Sean Harris, Jennifer Taylor, Megan Broadmeadow, Calum McCutheon a Gweni Llwyd.
Delwedd – ‘Metamorphosis’ Hijinx Theatre, ‘Rewild’ Krystal Lowe, Green Man @ Green Man Festival