Mae bwrsariaethau ar gael i artistiaid a sefydliadau celfyddydol o Gymru sydd â diddordeb yn y celfyddydau awyr agored neu sy’n gweithio yn y maes, i weld gwaith newydd, rhwydweithio ac i fynychu sesiynau proffesiynol yn y prif ddigwyddiad celfyddydau awyr agored, Gŵyl Ryngwladol Greenwich & Docklands.
Yn ogystal, mae hyn yn cynnwys y cyfle i gymryd rhan yn Hyb Gŵyl GDIF, a gynhelir gan Outdoor Arts UK, gyda rhaglen lawn o weithgareddau rhwydweithio a datblygiad proffesiynol.
Cynigir y bwrsariaethau ar gyfer y cyfnod o ddydd Gwener 21 i ddydd Sul 23 Mehefin, pan fydd yr Ŵyl yn cael ei lansio, a phan fydd yr Hyb yn weithredol, gydag Articulture yn rhoi croeso anffurfiol i ymgeiswyr bwrsariaeth llwyddiannus yn ystod y penwythnos yng nghanol Greenwich, Llundain.
Nod y bwrsariaethau yw cynorthwyo i greu llwyfan ehangach o rannu, cysylltiadau a phrosiectau cydweithio er mwyn datblygu celfyddydau awyr agored yng Nghymru, yn ogystal â sicrhau presenoldeb amlwg o Gymru yn y digwyddiad rhyngwladol blaenllaw hwn.
Gwneud cais am Fwrsariaeth – Lawrlwythwch wybodaeth yma
Rhaid i bob ymgeisydd hefyd lenwi ffurflen cyfle cyfartal
Dyddiad cau i ymgeisio – dydd Gwener, 17 Mai am 5pm
Cefnogir y bwrsariaethau gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Llywodraeth Cymru a’r Loteri Genedlaethol.
Delwedd – Graeae, ‘Prometheus Awakes’ – Greenwich & Docklands International Festival