
Mae Articulture ac Irish Street Arts, Circus and Spectable Network (ISACS) yn gwahodd ceisiadau gan unigolion celfyddydau awyr agored proffesiynol o Gymru i wneud cais am bedwar bwrsariaeth unigol i fynychu ‘Fresh Street’ gan Circostrada – Cynhadledd Ryngwladol Circus and Street Arts a gynhelir ddwywaith y flwyddyn
Circostrada yw’r rhwydwaith Ewropeaidd ar gyfer street arts and Circus, a Fresh Street yw ei brif ddigwyddiad rhwydweithio ac arddangos. Cyfle rhagorol i rwydweithio ag artistiaid, rhaglenwyr, ymchwilwyr, newyddiadurwyr a gwneuthurwyr polisi ar draws y byd, bydd y pedwar ymgeisydd llwyddiannus yn mynychu ochr yn ochr â’r tim Articulture, gan gynrychioli Cymru yn y cynulliad rhyngwladol hwn.
Y tro hwn cynhelir Fresh Street yn Galway, gyda pharatoadau ar gyfer Galway Prifddinas Diwylliant Ewrop 2020 yn mynd rhagddynt! Y ffocws fydd ‘Pobl a Hunaniaeth’, gan archwilio celfyddydau awyr agored fel offeryn ar gyfer newid cymdeithasol, diwylliannol, gwleidyddol ac economaidd. Gan ddewis model cynhadledd arloesol, bydd yn cynnwys un diwrnod o archwilio’r hyfryd Inis Oírr – Yr Ynysoedd Arann.
Lawrlwythwch gwybodaeth a ffurflen gais yma
Rhaid i bob ymgeisydd hefyd lenwi ffurflen cyfle cyfartal
Dyddiad cau 20 Mawrth 2019.