Fel tîm Articulture rydym yn dangos cydgefnogaeth ac yn anfon ‘cwtsh’ mawr, rhithwir i bawb yn ystod yr amseroedd rhyfedd ac anodd hyn.
I ni, mae ein gweithgarwch prosiect a ariennir wedi’i ‘ohirio’ ar hyn o bryd. Byddwn yn cadw llygad ar ddatblygiadau ac yn barod i barhau â’n gwaith cyn gynted ag y mae hynny’n ymarferol.
Yn y cyfamser, rydym yn anelu at gadw mewn cysylltiad fel cymuned yng Nghymru, y DU ac Ewrop i rannu gwybodaeth a chefnogi ein gilydd. Rydym mewn trafodaethau â Chyngor Celfyddydau Cymru i hyrwyddo celfyddydau awyr agored yng Nghymru, ac eisoes mewn cysylltiad â rhai ohonoch. Cysylltwch â ni ar Facebook neu e-bostiwch ni os hoffech sgwrs.
Dwy ffynhonnell sy’n benodol i’r celfyddydau yr ydym yn eu dilyn yw:
Cyngor Celfyddydau Cymru – https://arts.wales/…/arts-council-wales-responding-coronavi… – Arweiniad ar gyfer y mudiad Celfyddydau yng Nghymru.
Outdoor Arts UK – https://outdoorartsuk.org/join/ – Ymunwch â’u Grŵp Rhannu Gwybodaeth Covid-19 ar Facebook, cofrestrwch i dderbyn eu cylchlythyr cyffredinol, dilynwch nhw ar y cyfryngau cymdeithasol neu cysylltwch â nhw’n uniongyrchol.
Byddwn hefyd, lle y gallwn, yn rhannu unrhyw newyddion a diweddariadau yn ymwneud â chelfyddydau awyr agored gan y rhain ac eraill.
Yn y cyfamser, rydym yn teimlo’n gyffrous i gynnig y cyfle i ymuno â grŵp astudio Cymru gyfan, am ddim ar gyfer celfyddydau awyr agored – ‘Creu mewn Mannau Cyhoeddus’ y mis hwn. Croeso cynnes i bawb. Rhagor o wybodaeth yma.
Codwn law o’n byrddau cegin a gerddi o Ganolbarth Cymru i bob un ohonoch ar draws y byd gyda chariad.
Tîm Articulture