Agor allan 2021 – Gwaith celfyddydol newydd yn yr awyr agored i Gymru yr haf hwn

By 14th Mehefin 2021Uncategorised @cy

Mae Articulture a Chonsortiwm Celfyddydau Awyr Agored Cymru wedi cyffroi i gyhoeddi bod tri darn o waith celfyddydol yn yr awyr agored newydd yn cael eu creu ac yn mynd ar daith ar gyfer Agor Allan 2021.

Cafwyd y detholiad gan y Consortiwm ar ôl i hanner cant o artistiaid a chynhyrchwyr ledled Cymru ymateb i’r alwad Agor Allan, gan gysylltu ag Articulture i drafod a datblygu syniadau newydd ar gyfer gwaith yn yr awyr agored yr haf hwn.

Y tri darn o waith celfyddydol newydd yn yr awyr agored yw –

Afanc’- Perfformiad theatr gorfforol mewn tair iaith, gydag elfennau doniol, sy’n tynnu ar faterion yn ymwneud â’r eco-argyfwng amgylcheddol gan Tiago Gambogi a Maggi Swallow (darllediad cwbl gydnabyddedig – The Detonators)

Alter Ego’ (teitl dros dro) – Cydweithrediad theatr gorfforol a syrcas gyda’r artist anabledd Leyton John a Splatch Arts. Arddangosfa weledol ddoniol o hunan arall Leyton sy’n ail-berfformio ei deimladau ‘go iawn’ tuag at sylwadau israddol ynghylch anabledd. Golygfa weledol sy’n gyfeillgar i’r teulu â grym ysgogol.

Qwerin‘ – Gwaith dawns a gwerin cyfoes gan Osian Meilir sy’n rhoi sylwebaeth ar y cysyniad o elfennau cwiar a Chymreictod ar ffurf Dawns Werin Gyfoes – dathliad Cymreig o ddiwylliant, hunaniaeth a chymuned.

Mae Consortiwm Celfyddydau Awyr Agored Cymru yn grŵp o ddeuddeg lleoliad a gŵyl ledled Cymru sydd eisiau cefnogi mwy o waith yn yr awyr agored, i’w cynulleidfaoedd gymryd rhan ynddynt a’u mwynhau.

Dywedodd Rosie o Articulture –

Mae wedi bod yn gyfnod cyffrous yma yn Articulture wrth i ni weld pobl greadigol yma yng Nghymru yn gwneud newid amlwg i weithio ym mannau cyhoeddus, a nifer ohonynt yn ystyried gweithio yn yr awyr agored am y tro cyntaf. Mae dyfnder newydd wedi bod mewn perthynas â syniadau a themâu, a deialog cyfoethocach wrth i ni barhau i ‘agor allan’ a dysgu gyda’n gilydd sut i gefnogi lleisiau nad ydynt yn cael cynrychiolaeth ddigonol i hawlio canol y llwyfan.

Dywedodd Sioned Edwards o’r Eisteddfod –

Pleser yw gweithio gydag Articulture a phartneriaid eraill fel rhan o’r consortiwm. Mae’r prosiect hwn yn ffordd wych i gefnogi a datblygu artistiaid sy’n dymuno creu gwaith yn yr awyr agored.  Artistiaid o bob cwr o Gymru, yn gweithio ar draws nifer o ffurfiau ar gelfyddyd. Mae hi mor bwysig i sefydliadau weithio gyda’i gilydd i ddarparu cyfleoedd i artistiaid, ac edrychwn ymlaen at weld y perfformiadau sydd wedi’u comisiynu.

Cadwch lygad am ddiweddariadau ar gyfryngau cymdeithasol Articulture wrth i ni gyhoeddi dyddiadau ein taith nesaf ar gyfer y gwaith newydd hwn ledled Cymru yr haf hwn #AgorAllan2021.

Cefnogir Agor Allan gan y Consortiwm, Articulture a Chyngor Celfyddydau Cymru.

Skip to main content