Tirweddau Creadigol
Hanes Gŵyl Afon Dyffryn Gwy
Digwyddiad Byw Ar-lein
Dydd Mercher 23 Medi 2020
8 – 9pm
Trysorfa o storïau a mewnwelediadau i hanes yr ŵyl dros y chwe blynedd diwethaf – o’i dechreuad hyd heddiw.
Bydd Miles Jupp yr actor a’r digrifwr o Ddyffryn Gwy (y mae ei waith yn cynnwys The News Quiz ar Radio 4) yn siarad â Sarah Sawyer, AHNE Dyffryn Gwy a Phill Haynes a Jon Beedell, Cynhyrchwyr Creadigol yr Ŵyl, i olrhain uchafbwyntiau a heriau’r cydweithrediad uchelgeisiol sy’n parhau i esblygu a thyfu, gan roi mynediad i dir a diwylliant i bawb.
Gwylio – Gallwch wylio yn fyw yma
Bydd recordiad hefyd ar gael yn fuan ar ôl y digwyddiad. Penawdau ar gael yn Saesneg.
Ynglŷn â Thirweddau Creadigol
Cyfres o bodlediadau a digwyddiadau byw ar-lein rhad ac am ddim yw Tirweddau Creadigol sy’n archwilio ac yn dathlu cydweithredu creadigol rhwng artistiaid, cynhyrchwyr a rheolwyr tir yng Nghymru ac ar draws ffiniau, a’r gwaith buddiol ac ysbrydoledig yn yr awyr agored y gall cydweithredu ffrwythlon ei greu.
Yn cael ei gynnal fel rhan o Ŵyl Afon Dyffryn Gwy – wedi’i hail-ddychmygu ar-lein ar gyfer 2020 – ac fel rhan o wythnos ‘Tirweddau am Oes’ Cymdeithas Genedlaethol yr Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol a gynhelir rhwng 21-25 Medi, mae Tirweddau Creadigol yn cael ei guradu gan Articulture, ar y cyd â thîm yr Ŵyl.
Mae’r ŵyl yn cael ei chefnogi gan Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Dyffryn Gwy, Croeso Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru.
Delwedds – Cydweithrediad Gŵyl Afon Dyffryn Gwy Credyd – Paul Blakemore.