Skip to main content
  • twitter
  • facebook
Articulture
Menu
  • Hafan
  • Amdanom Ni
    • Amdanom Ni
    • Articulture
  • Rhwydwaith
  • Byddwch yn Rhan
    • Arddangos
    • Creu
    • Tyfu
    • Archebu
  • Adnoddau
    • Cyfeiriadur
    • Eiriolaeth
  • Diweddaraf
  • Cysylltu
  • Cymraeg
    • English
    Press enter to begin your search
    Close Search

    Tirweddau Creadigol – Cenedlaethau’r Dyfodol – Digwyddiad Byw Ar-lein – 25 Medi 2020

    Tirweddau Creadigol

    Cenedlaethau’r Dyfodol

    Digwyddiad Byw Ar-lein

    Dydd Gwener 25 Medi 2020

    11am – 12pm

    Cymru yw’r unig wlad yn y byd lle mae llesiant cenedlaethau’r dyfodol yn bolisi’r llywodraeth gyda ‘Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol’.

    Bydd Rosie Strang, Cyd-gyfarwyddwr Articulture yn siarad â Phil George, Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru, a Clare Pillman, Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru ac aelod o Fwrdd Theatr Genedlaethol Cymru, ynglŷn â sut mae cydweithrediadau traws-sector rhwng diwylliant a’r amgylchedd yma yng Nghymru ac ar draws ffiniau yn gallu ein helpu i gwrdd â’n heriau cyfredol o anghydraddoldeb, pandemig ac argyfwng hinsawdd, i ofalu am genedlaethau’r dyfodol.

    Gwylio – Gwyliwch yn fyw yma 

    Bydd recordiad hefyd ar gael yn fuan ar ôl y digwyddiad. Penawdau – ar gael yn Saesneg

    Ynglŷn â Thirweddau Creadigol

    Cyfres o bodlediadau a digwyddiadau byw ar-lein rhad ac am ddim yw Tirweddau Creadigol sy’n archwilio ac yn dathlu cydweithredu creadigol rhwng artistiaid, cynhyrchwyr a rheolwyr tir yng Nghymru ac ar draws ffiniau, a’r gwaith buddiol ac ysbrydoledig yn yr awyr agored y gall cydweithredu ffrwythlon ei greu.

    Yn cael ei gynnal fel rhan o Ŵyl Afon Dyffryn Gwy – wedi’i hail-ddychmygu ar-lein ar gyfer 2020 – ac fel rhan o wythnos ‘Tirweddau am Oes’ Cymdeithas Genedlaethol yr Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol a gynhelir rhwng 21-25 Medi, mae Tirweddau Creadigol yn cael ei guradu gan Articulture, ar y cyd â thîm yr Ŵyl.

    Mae’r ŵyl yn cael ei chefnogi gan Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Dyffryn Gwy, Croeso Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru.

    Delwedds – Cynulliad Articulture – Credyd – Giles Bennet & Keith Morris

     

    • Previous Project
    • Next Project
    Share
    Share Share Share Pin
    Outdoor Arts UK (External site) NASA UK (External site) Arts Council Wales logo
    Tweets by @@Articulture_

    Subscribe to our mailing list

    * indicates required


    Please select all the ways you would like to hear from Articulture Wales:


    You can unsubscribe at any time by clicking the link in the footer of our emails. For information about our privacy practices, please visit our website.

    We use Mailchimp as our marketing platform. By clicking below to subscribe, you acknowledge that your information will be transferred to Mailchimp for processing. Learn more about Mailchimp's privacy practices here.


    © 2026 Articulture. (v2) All Rights Reserved. Registered Company No. 08643807

    • twitter
    • facebook
    • instagram
    Close Menu
    • Hafan
    • Amdanom Ni
      • Amdanom Ni
      • Articulture
    • Rhwydwaith
    • Byddwch yn Rhan
      • Arddangos
      • Creu
      • Tyfu
      • Archebu
    • Adnoddau
      • Cyfeiriadur
      • Eiriolaeth
    • Diweddaraf
    • Cysylltu
    • Cymraeg
      • English
    • twitter
    • facebook