Tirweddau Creadigol – Cydweithrediadau – Lansio’r Podlediad
Dydd Llun 21 Medi 2020
Gwrandewch ar y straeon ysbrydoledig a phryfoclyd sy’n archwilio cydweithredu creadigol rhwng artistiaid, cynhyrchwyr a rheolwyr tir yng Nghymru ac ar draws ffiniau. Bydd y chwe phodlediad byr yn mynd â ni ar daith ar draws syniadau, lleoliadau, cymunedau a heriau amrywiol, wedi’u gwreiddio yng Nghymru ac yn cysylltu â’r byd.
Ymhlith y gwesteion bydd: Cadw, Cyfoeth Naturiol Cymru, Krystal Lowe, Simon Coates, Matthew Gough, Lefelau Byw, Tin Shed Theatre, David Gough, Parc Cenedlaethol Cairngorms, Karine Décorne a Marc Rees. Cynhyrchydd y podlediadau yw Lisa Heledd-Jones o StoryWorks.
Gallwch wrando ar y podlediadau yma
Trawsgrifiadau ysgrifenedig ar gael yn Saesneg
Ynglŷn â Thirweddau Creadigol
Cyfres o bodlediadau a digwyddiadau byw ar-lein rhad ac am ddim yw Tirweddau Creadigol sy’n archwilio ac yn dathlu cydweithredu creadigol rhwng artistiaid, cynhyrchwyr a rheolwyr tir yng Nghymru ac ar draws ffiniau, a’r gwaith buddiol ac ysbrydoledig yn yr awyr agored y gall cydweithredu ffrwythlon ei greu.
Yn cael ei gynnal fel rhan o Ŵyl Afon Dyffryn Gwy – wedi’i hail-ddychmygu ar-lein ar gyfer 2020 – ac fel rhan o wythnos ‘Tirweddau am Oes’ Cymdeithas Genedlaethol yr Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol a gynhelir rhwng 21-25 Medi, mae Tirweddau Creadigol yn cael ei guradu gan Articulture, ar y cyd â thîm yr Ŵyl.
Mae’r ŵyl yn cael ei chefnogi gan Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Dyffryn Gwy, Croeso Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru.
Delwedds -1. Tirweddau Creadigol – Credyd Lisa Heledd Jones, 2. In the Eyes of the Animal – Luca Marziale, 3. Daughters of the Sea – Credyd Krystal Lowe.