Cyfle i artistiaid symudiadau gamu i’r awyr agored ac archwilio eu tirweddau lleol gyda ‘Going Home…Home is always going’ – gweithdy byw ac ymarfer clywedol gyda’r artist blaenllaw Simon Whitehead – mewn cydweithrediad â Groundwork ac Articulture.
*Gweithdy Ymarfer Corff Byw
Dydd Mawrth 8 Medi 2020 11.30am – 12.30pm
Mae Simon yn gwahodd pobl i archwilio sgoriau a fframweithiau i weithio in situ ac o bell gydag eraill – ‘Byddwn yn paratoi ein hunain i weithio ac uniaethu â’n bro a chydweithio o fewn ystod o lefydd, atmosfferau, deunyddiau a bodau eraill. Yn ein gwaith gyda’n gilydd byddwn yn ystyried sut mae ein symudiad bob amser yn ffordd o fynd adref…‘
I gymryd rhan – Bydd angen cysylltiad â’r we arnoch, blanced, Zoom, llyfr nodiadau/dyddlyfr, pensil/pin ysgrifennu, a mynediad at yr awyr agored os yw hynny’n bosibl.
Opsiwn ychwanegol – Galwch i mewn hanner awr cyn y sesiwn am 11am, neu am hanner awr ar ôl y gweithdy i ddweud helô, sgwrsio, a gofyn cwestiynau gyda Groundwork ac Articulture.
Archebu lle – E-bostiwch groundworkprocardiff@gmail.com ymlaen llaw.
Rydym yn croesawu pobl o bob cefndir, diwylliant a gallu yn cynnwys pobl o gefndiroedd du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig/unigolion croenlliw, ffoaduriaid, pobl fyddar, anabl, niwro-ddargyfeiriol, dosbarth gweithio a/neu LGBTQI+ i’r gofod hwn. Cysylltwch â ni i drafod unrhyw ofynion mynediad sydd gennych ymlaen llaw, fel y gallwn ddarparu cyfleusterau i chi allu cymryd rhan.
*Ymarfer Clywedol
Ar gael o ddydd Mawrth 22ain Medi
Ymarfer drifft a chyfansoddiadol wedi’i greu gan Simon i archwilio eich bro, gyda chyfle i rannu eich myfyrdodau – ysgrifennu, recordiadau, darluniau.
Mae’r ymarfer clywedol yn cyd-fynd â’r gweithdy, ond gall weithio fel ymarfer personol annibynnol hefyd.
Lawrlwythwch – www.groundworkpro.com
Ynghylch Simon Whitehead
Dros y 20 mlynedd diwethaf mae Simon wedi lleoli llawer o’i ymarfer yn y dyffryn ger ei gartref yng Nghwm Cych. Drwy gerdded yn y Cwm hwn, mae’n cysylltu’n gorfforol mewn byd o ddeunyddiau a digwyddiadau – yn gwneud perfformiadau crwydrol, yn aml yn rhai cyflym, byrhoedlog a chwareus.
Mae’n cynnal Locator, sef gweithdy deorydd parhaus sy’n ymchwilio syniadau ecolegol drwy ymarfer symudiad, yn Nhŷ Canol, coetir derw sesil hynafol yng ngorllewin Cymru. Ar hyn o bryd mae’n tyfu llawr ddawns gyda phlanhigion a pherlysiau ym Mhlas Glyn y Weddw ym Mhen Llŷn, bydd Tirnewydd yn lle i gyfarfod a chyffwrdd ymhlith bodau dynol, planhigion a bywyd gwyllt.
Yn ogystal, mae Simon yn therapydd creuansacrol ac ar hyn o bryd mae’n gwneud PhD wedi’i ariannu gan AHRC ym Mhrifysgol Glasgow; yn ymchwilio i Sylweddau Meddal a’r cysylltiadau rhwng syniadau ecolegol, cyffyrddiad ac ymarfer symudiadau.
Mae’r gwaith ar y cyd hwn rhwng Groundwork ac Articulture yn dwyn ynghyd dwy fenter gyfredol i ysbrydoli creadigaeth yn ystod y cyfnod clo – Ymarfer Corfforol Byw Groundwork, a sesiynau Creadigol y Celfyddydau Awyr Agored Articulture dros Zoom.
Roedd y prosiect yma’n bosibl gydag arian y Loteri Genedlaethol drwy Gyngor Celfyddydau Cymru.