Roedd taith Articulture i Ŵyl Afon Dyffryn Gwy yn un o ddau ddigwyddiad rhwydweithio a gynhelir ar dirlun Cymru yn 2014, gyda’r bwriad o danio’r datblygiad o gelfyddydau awyr agored unigryw i Gymru.
Ffocws y digwyddiad oedd partneriaethau – gyda’r golwg bod celfyddydau awyr agored o safon uchel yn dibynnu ar weledigaeth o gydweithio cryf a chefnogaeth. Fe wnaeth Gŵyl Afon Dyffryn Gwy ddarparu fforwm ac astudiaeth achos ar gyfer y thema yma yn ddiweddar, wedi ei geni allan o gynghrair rhwng Ardal Afon Dyffryn Gwy sydd o Brydferthwch Naturiol Hynod, Desperate Men, artistiaid Cymraeg a Saesneg a chymunedau lleol.
Fe wnaeth 35 o weithwyr, oll â diddordeb mewn archwilio partneriaethau, gyfarfod am y diwrnod i rannu profiadau, yn ogystal â mynd allan i galon yr ŵyl i weld y comisiwn gan Articulture/WVRF sef Chloe Loftus Dance.
Roedd y siaradwyr yn cynnwys Desperate Men; Wye Valley AONB; Cyngor Celfyddydau Cymru; National Theatre Wales; NoFit State Circus; Mr and Mrs Clark; Marc Rees; a Phillippa Haynes, Gŵyl Afon Dyffryn Gwy. Roedd Cyfoeth Naturiol Cymru a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol hefyd fod yn bresennol.
Dogfennaeth
Rhaglen
Rhestr o gynrychiolyddion
Adroddiad