Roedd taith Articulture i Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn un o ddau ddigwyddiad rhwydweithiol a gynhelir ar dirlun Cymru yn 2014, gyda’r bwriad o danio’r datblygiad o gelfyddydau awyr agored unigryw i Gymru.
Fe wnaeth y digwyddiad ganolbwyntio ar fewnosod celfyddydau awyr agored i wraidd diwylliant Cymraeg, gydag Eisteddfod Genedlaethol Cymru, dathliad enwog o gelfyddydau a iaith Gymraeg, a gŵyl deithiol ddiwylliannol fwyaf Ewrop, yn darparu fforwm ac achos astudio ar gyfer y thema yma.
Wedi eu cynorthwyo gan Gareth Lloyd Roberts, Cyfarwyddwr Canolfan Celfyddydau Aberystwyth, fe wnaeth 20 gweithiwr gymryd rhan, gan archwilio cyfleoedd o amgylch creu a chyflwyno celfyddydau awyr agored yn yr Eisteddfod a hynny ar adeg iddo fyned cyfnod deinamig newydd, yn ogystal â digwyddiadau diwylliannol cymunedol tebyg ar draws y wlad. Roedd hyn yn cynnwys mynd ar daith o amgylch safle’r ŵyl, a gweld am y tro cyntaf, comisiwn Articulture / Eisteddfod, sef digwyddiad awyr agored gan Citrus Arts.
Roedd y siaradwyr yn cynnwys: Arwel Gruffydd, Cyfarwyddwr, Theatr Genedlaethol Cymru; Bridie Doyle, Cyfarwyddwr, Citrus Arts; a Geinor Styles, Cyfarwyddwr, Theatr na nÓg.
Dogfennaeth
Rhaglen
Rhestr o gynrychiolyddion
Adroddiad