Gwahoddodd ‘cyfarfyddiad’ celfyddydau awyr agored Articulture yng ngŵyl newydd sbon Pontio o syrcas a chelfyddydau stryd sef ‘Gwledd Syrcas Feast’ ym Mangor arlunwyr, sefydliadau celfyddydol, swyddogion celfyddydol, cyllidwyr, cyfarwyddwyr a gwneuthurwyr gwyliau o Ogledd Cymru i ymgasglu am ddiwrnod heulog hamddenol i fwynhau’r ŵyl, i rwydweithio, a gweld gwaith newydd gan arlunwyr o Gymru a’r DU.
Caniataodd hefyd i Articulture a Pontio rannu eu newyddion am waith ar y cyd diweddar i ddatblygu celfyddydau awyr agored yng Nghymru, gan gynnwys cynllun peilot Consortiwm Comisiynu Celfyddydau Awyr Agored Cymru ac ymddangosiad cyntaf comisiwn Articulture/Pontio sef ‘Kaboom’ gan Hugo Oliveira, perfformiwr o Gymru.