Mae ISAN – Rhwydwaith Celfyddydau Stryd Annibynnol – yn mynd at lan môr Cymru ar ddyddiad olaf eu taith rhwydweithio Celfyddydau Awyr Agored ledled y DU’r haf hwn, a gynhelir gan Benwythnos Celfyddydau Llandudno ysbrydoledig (LLAWN#4) ar y cyd ag Amaethyddiaeth Cymru. Testun tanbaid: rhaglennu gwledig ymarferol!
Yn unol â digwyddiadau teithiol ISAN eraill, bydd yr un yma yn cynnwys trafodaeth am y materion sy’n effeithio’r sector celfyddydau agored, cyfle i rannu gwybodaeth, digwyddiadau a syniadau, a chyfle i gael gwybod rhagor am yr ŵyl gynnal, ac amser i rwydweithio a chyd gynhyrchwyr, rhaglennwyr ac artistiaid. Bydd ISAN yn gwahodd cynrychiolwyr ariannol i helpu gyda’ch cwestiynau am arian a gobeithio eich cynghori neu eich rhoi ar y trywydd cywir gyda’r rhan fwyaf o faterion.
Bydd peth arlwyo ysgafn ac awyrgylch cyfeillgar. Mae croeso i rywun sydd â diddordeb yn y sector celfyddydau Awyr Agored fynychu, ond, os bydd angen, bydd ISAN yn blaenoriaethu aelodau ISAN.
Agenda:
- Croeso, cyflwyniadau a lluniaeth
- Beth am drafod… ein gwesteiwyr: Penwythnos Celfyddydau Llandudno (Llawn#4)
- Beth am drafod… pwnc llosg:
Sut allwn gwrdd â heriau yn y Celfyddydau Awyr Agored mewn lleoliadau gwledig a gwyliau maes, yn enwedig lle mae incwm yn ofynnol? - Beth am drafod… Celfyddydau Awyr Agored:
Codi cwestiynau, cynnig cyngor - Beth am drafod… newyddion a thybiaethau:
Cyfle i rannu newyddion, syniadau a digwyddiadau a thrafod cyfleoedd ariannu - Sgwrs anffurfiol, cymysgu ac amser i glebran
- Cofrestrwch ar gyfer ein sesiynau ariannu pum munud
Mae’r digwyddiad hwn AM DDIM ac yn cael ei gynnal rhwng 10am a 12pm, Lleoliad i’w gadarnhau, rhywle canolog yn Llandudno. Archebwch le ar-lein ar wefan ISAN – http://www.isanuk.org/outdoor-arts/on-the-road-2016/
Beth am wneud penwythnos iawn ohoni – mae gan LLAWN raglen o ddigwyddiadau celfyddydol i’r ymylon yn cynnwys perfformiad, gemau stryd, cerddoriaeth, gwneud robot, dawns, celf weledol, ffilm – http://www.llawn.org/whats-on/
Cefnogir ISAN gan Gyngor Celfyddydau Lloegr. Cefnogir Articulture a Llawn# gan Gyngor Celfyddydau Cymru.