Darn o ddawns chwareus a chorfforol fywiog sy’n cael ei pherfformio ar fainc parc.
Mae dau ‘ddieithryn’ yn cyrraedd mainc parc ac mae deuawd yn datblygu. O sgwrs sydd yn amlwg yn lletchwith, mae’r ddau yn dechrau ‘siarad’ trwy ddefnyddio iaith y corff a symudiadau.
Trwy sgyrsiau digrif, chwaraëusrwydd a gwaith cyffwrdd beiddgar, mae stori deimladwy am gyfeillgarwch yn cael ei hadrodd, gan ddangos potensial gwych y dieithryn sy’n sefyll wrth eich ymyl.
Comisiynwyd gan Articulture, mewn cydweithrediad â Chonsortiwm Comisiynu Celfyddydau Awyr Agored Cymru. Cefnogir gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
I archebu’r gwaith hwn ar gyfer eich digwyddiad, cysylltwch â’r artist – chloeloftus.co.uk