Osian Meilir – ‘Qwerin’
Mae ‘Qwerin’ yn berfformiad dawns gyfoes sy’n mynd y tu hwnt i ffiniau’r ddawns werin draddodiadol Gymreig. Wedi ei hysbrydoli gan ddiwylliant clybiau Cwiar a phatrymau llyfn dawnsio gwerin, mae ‘Qwerin’ yn ddawns werin Gymreig wahanol i’r arfer.
Mae Osian Meilir, artist dawns o Orllewin Cymru, yn tynnu sylw at werth rhannu profiadau a darganfod cymuned drwy waith awyr agored newydd a gomisiynwyd ar gyfer tri dawnsiwr. Mae ‘Qwerin’ yn cyfuno dawnsio gwerin Cymreig a diwylliant Cwiar ynghyd â sgôr sain wreiddiol, gyffrous gan gyfansoddwyr sy’n enillwyr wobr Bafta, a thrwy roi elfen gyfoes ar wisgoedd traddodiadol Cymreig, mae ‘Qwerin’ yn ddathliad gwerinol o ddiwylliant a hunaniaeth.
Comisiwn ‘Agor Allan’ gan Gonsortiwm Comisiynu Celfyddydau Awyr Agored Cymru ac Articulture. Cefnogir gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Llywodraeth Cymru a’r Loteri Genedlaethol.
I archebu’r gwaith hwn ar gyfer eich digwyddiad, cysylltwch â’r artist.