Splatch Arts gyda Leyton John – ‘Bring Me Sunshine’
Mae ‘Bring me Sunshine’ yn cyfuno’r syrcas, adrodd stori ac ychydig o’r abswrd. Cofnod chwareus a theimladwy o brofiadau Leyton o fyw gyda sglerosis ymledol.
Teimlodd Leyton, sy’n bwerus o annibynnol, ei fod wedi colli ei lais a’r ymdeimlad o hunaniaeth oherwydd ei fod mewn cadair olwyn. Byddwn yn cael cipolwg ar ei fywyd, wrth iddo ddod yn Ringfeistr gyda dau idiot syrcas direidus bob ochr iddo.
Mae Bring me Sunshine yn nodyn i’n hatgoffa ni ein bod ni’n gallu gweld y tu hwnt i’n ffiniau ein hunain drwy wrando gyda chwilfrydedd a chydymdeimlad.
Comisiwn ‘Open Out’ gan Gonsortiwm Comisiynu Celfyddydau Awyr Agored Cymru ac Articulture. Cefnogir gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Llywodraeth Cymru a’r Loteri Genedlaethol.
I archebu’r gwaith hwn ar gyfer eich digwyddiad, cysylltwch â’r artist.
twitter.com/splatchcardiff