f.a.b. The Detonators – ‘Afanc’
Dilynwch ‘Afanc’, bwystfil gwyllt ond hardd, ar daith i ddod o hyd i ddŵr a stori amgylcheddol daer sy’n cael ei hadrodd drwy glownio cyfoes, delweddau syfrdanol a synau unigryw.
Dyma stori am wastraff. Ie, gwastraff. A beth rydyn ni’n ei wneud ag o…Ac yna beth mae’n ei wneud i ni….
Mae’n stori am ferch sy’n wynebu ei hofnau ac yn dod yn ffrind i fwystfil. Ond mae’r bobl yn ei thref yn gyndyn o wrando ac maent yn dal y bwystfil…ond fe delir y pwyth yn ôl.
Mae’r sioe’n seiliedig ar chwedl Gymreig ‘Afanc’, ac mae’n archwilio ein perthynas gyda natur. Mae hefyd yn edrych ar ein ffynhonnell fwyaf gwerthfawr – dŵr – a beth all ddigwydd os nad ydym yn gofalu amdano.
Mae’r ddeuawd ryngwladol Maggi Swallow a Tiago Gambogi (f.a.b. The Detonators) yn cyflwyno sioe theatr ddiddorol ar gyfer y teulu, gyda llawer o ganeuon, gwisgoedd rhagorol wedi’u hailgylchu a dannedd di-ri!
Comisiwn ‘Open Out’ gan Gonsortiwm Comisiynu Celfyddydau Awyr Agored Cymru ac Articulture. Cefnogir gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Llywodraeth Cymru a’r Loteri Genedlaethol.
I archebu’r gwaith hwn ar gyfer eich digwyddiad, cysylltwch â’r artist.