Prosiect sy’n gweithio ar draws 3 o leoliadau awyr agored ym Mhowys yw CELFLUN. Cynhelir prosiect canolbarth Powys yng nghoedwig Hafren gyda’r gymuned leol ac artistiaid lleol yn cyd-greu gweithiau celf newydd. Bydd prosiect canol Powys yn cael ei gynnal yng nghoedwig Hafren gyda’r gymuned leol ac artistiaid lleol yn cyd-greu gweithiau celf newydd.
Mae CELFLUN yn ceisio ymgysylltu’r gymuned leol mewn sgwrs greadigol arbennig o leol ynghylch newid hinsawdd trwy’r celfyddydau, ynghyd ag iechyd a lles pobl sy’n byw yn y sir. Ein nod yw dechrau taith greadigol a chyflwyno gweledigaeth bositif ar gyfer dyfodol Powys lle’r ydym yn ymdrechu i fyw mewn harmoni gyda’n hamgylchedd mewn byd tecach.
Allwch chi fel artist helpu hwyluso ac archwilio’r bwriad hwn?
Beth allwch chi ei gynnig fel rhywun creadigol i’n cymunedau lleol i ysgogi sylw, empathi a pherthynas tymor hir gyda Choedwig Hafren.
Rydym yn chwilio am 3 artist / ymarferydd creadigol lleol i ymgysylltu’n weithgar gyda’r gymuned wrth ddychmygu eu dyfodol o fewn cyfyngiadau anghenion ein planed, tra’n mwynhau amgylchedd prydferth Coedwig Hafren.
Cynghrair partneriaeth greadigol yw CELFLUN RHWNG Gwasanaeth Celfyddydol a Diwylliannol Cyngor Sir Powys, Cyfoeth Naturiol Cymru, Impelo, 4Pi ac Articulture.
Rydym yn gwahodd ceisiadau gan artistiaid, ymarferwyr creadigol neu grwpiau sy’n gweithredu ar y cyd ac sy’n byw neu’n gweithio ym Mhowys.
Dadlwythwch wybodaeth lawn trwy glicio yma – briff ARTSCAPE – canolbarth Powys
Dyddiad cau i gyflwyno Mynegiadau o Ddiddordeb: erbyn 5pm, Dydd Gwener 13 Awst 2021