Cwmni Theatr Dripping Tap – ‘Webster & Jones: Canllaw mawr i Gymru fach’
Antur ddigri a chyfranogol lle bydd y gynulleidfa yn ymuno â Webster & Jones, y ddau fforiwr dewr Fictorianaidd, ar eu hynt i orchfygu’r awyr agored! Dilynwch helyntion y fforiwr dewr, ond anlwcus, a’i dywyswr ffyddlon wrth iddynt archwilio awyr agored Cymru, i gyrraedd eu nod eithaf: copa mynydd ‘Snowed On’.
Yn cyfuno perfformiad crwydrol rhyngweithiol gyda sioe theatr stryd draddodiadol. Mae ‘Webster & Jones: Canllaw mawr i Gymru fach yn chware ar y thema o’n perthynas ni a natur a’n hawydd ofer i’w meistroli. Mae’r ddau gymeriad yn mynd ar daith trwy drallod cyn sylweddoli nad oes ‘unman yn debyg i adref’.
Mae dwyieithrwydd wrth wraidd y darn. Webster yw’r fforiwr Seisnig Fictorianaidd nodweddiadol, ei gydymaith yw ffermwr mynydd Cymreig sy’n halen y ddaear ac sydd ddim yn deall gair o Saesneg!
Comisiynwyd gan Articulture, mewn cydweithrediad â Chonsortiwm Comisiynu Celfyddydau Awyr Agored Cymru. Cefnogir gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
I archebu’r gwaith hwn ar gyfer eich digwyddiad, cysylltwch â’r artist – facebook.com/drippingtaptheatre
Ffoto – Jack Offord