Run Ragged – ‘Baa’
Bugeiles drefol a’i chi yn chwilio am eu diadell o ddefaid. Yn y diwedd, caiff y cwbl eu haduno a dechreuant ddawnsio.
Cyfunir crwydriadau, byrfyfyrio, ac adrannau o goreograffi strwythuredig, ynghyd â cherddoriaeth wedi’i recordio neu gerddoriaeth byw, chwibannau a sain di-eiriau.
Mae’r ymddangosiad yn gyfoes, a’r rhyngweithiad â’r gynulleidfa yn gynnes. Mae Baa! yn llawn hwyl, yn ffraeth, ffres a difyr ac yn addas ar gyfer y teulu oll.
Wedi’i gyfarwyddo gan Jem Treays, dyluniad gan ei gydweithiwr hirdymor, Saz Moir, a cherddoriaeth wedi’i chyfansoddi gan Dan Green.
Comisiynwyd gan Articulture, mewn cydweithrediad â Chonsortiwm Comisiynu Celfyddydau Awyr Agored Cymru. Cefnogir gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
I archebu’r gwaith hwn ar gyfer eich digwyddiad, cysylltwch â’r artist – facebook.com/runraggedproductions
Ffoto – Chris Young