Mae cyfarfodydd celfyddydol Articulture yn gyfres barhaus o gyfleoedd i gysylltu ag eraill drwy Gymru a thu hwnt a gweld y gorau o’r gwaith celf awyr agored newydd. Maent yn cael eu cynnal gan Articulture, ac maent yn anffurfiol, cyfeillgar ac yn agored i bawb.
Gŵyl Ryngwladol Greenwich & Docklands (GDIF) yw prif ŵyl celfyddydau awyr agored rhad ac am ddim Llundain (celfyddyd theatr, dawns, syrcas a stryd). Ochr yn ochr â rhaglen proffil uchel o berfformwyr rhyngwladol ac o’r DU ceir cyfres o ddigwyddiadau gan y diwydiant celfyddydau awyr agored.
Yn ogystal, mae hyn yn cynnwys y cyfle i gymryd rhan yn Hyb Gŵyl GDIF, a gynhelir gan yr Independent Street Arts Network, gyda rhaglen lawn o weithgareddau rhwydweithio a datblygiad proffesiynol.
Mae croeso i bawb ymuno ag Articulture yn y digwyddiad hwn. Os oes gennych ddiddordeb ebostiwch info@articulture-wales.co.uk.
Mae nifer cyfyngedig o fwrsariaethau ar gael i gefnogi artistiaid/sefydliadau celf i fynd i’r digwyddiad hwn. Am fwy o fanylion cliciwch yma.
Llun: The Colour of Light @ GDIF 2017, Compagnie Off – Ed Simmons