The Wheelabouts – ‘Boudicca’
Gan ymgasglu ei byddin o Geltiaid, mae cerbyd rhyfel a cheffyl Boudicca (Buddug) yn rhedeg yn wyllt drwy gefn gwlad yn chwilio am Rufeiniaid i’w herio a’u ‘cosbi’!
Gyda phypedau, propiau a pherfformiadau, bydd Boudicca yn wibdaith gyffroes gyda chyfranogiad cynulleidfa a digon o fyrfyfyrio comig!
Boudicca (Buddug) oedd pennaeth llwyth Celtaidd yr Iceni pan oedd y Rhufeiniaid yn meddiannu Lloegr. Y ddelwedd sydd gennym ohoni yw fel rhyfelwr dialgar, yn benderfynol o ganfod a chosbi pob Rhufeiniwr!
Mae The Wheelabouts yn cynhyrchu darnau theatr symudol wedi eu creu o gwmpas cadeiriau olwyn, ac mae eu cynhyrchiad diweddaraf yn mynd a ni ar daith ar hyd y ffordd Rufeinig gyda Boudicca.
Bydd Boudicca’n rhedeg yn wyllt drwy’r wlad ar gefn Cerbyd Rhyfel trawiadol yn cael ei arwain gan geffyl mecanyddol ar garlam, i gyfeiliant trac sain aflafar. Bydd ganddi storfa o bropiau comedi ac arfau, er mwyn arfogi ei dilynwyr a hithau i weinyddu ei ‘chyfiawnder’.
Byddwch yn barod Rufeiniaid…!
Comisiynwyd gan Articulture, mewn cydweithrediad â Chonsortiwm Comisiynu Celfyddydau Awyr Agored Cymru. Cefnogir gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
I archebu’r gwaith hwn ar gyfer eich digwyddiad, cysylltwch â’r artist – wheelabouts.com
Llun – The Wheelabouts – Keith Morris