Mae bwrsariaethau ar gael i artistiaid a sefydliadau celfyddydol o Gymru sydd â diddordeb yn y celfyddydau awyr agored neu sy’n gweithio yn y maes, i weld gwaith newydd, rhwydweithio ac i fynychu sesiynau proffesiynol yn y prif ddigwyddiad celfyddydau awyr agored, Gŵyl Ryngwladol Greenwich & Docklands.
Yn ogystal, mae hyn yn cynnwys y cyfle i gymryd rhan yn Hyb Gŵyl GDIF, a gynhelir gan yr Independent Street Arts Network, gyda rhaglen lawn o weithgareddau rhwydweithio a datblygiad proffesiynol.
Mae’n hawdd ymgeisio – lawrlwythwch y manylion yma
Dyddiad cau – dydd Gwener 18 Mai.
Cynigir y bwrsariaethau ar gyfer y cyfnod o ddydd Gwener 22 i ddydd Sul 24 Mehefin, pan fydd yr Ŵyl yn cael ei lansio, a phan fydd yr Hyb yn weithredol, gyda Articulture yn rhoi croeso anffurfiol i ymgeiswyr bwrsariaeth llwyddiannus yn ystod y penwythnos yng nghanol Greenwich, Llundain (nodwch y bydd yr Hyb yn weithredol o ddydd Iau 21 Mehefin os ydych yn dymuno ymweld yn gynharach, ond ni fydd yr ymweliad a drefnir gan Articulture yn dechrau tan ddydd Gwener).
Nod y bwrsariaethau yw cynorthwyo i greu llwyfan ehangach o rannu, cysylltiadau a phrosiectau cydweithio er mwyn datblygu celfyddydau awyr agored yng Nghymru, yn ogystal â sicrhau presenoldeb amlwg o Gymru yn y digwyddiad rhyngwladol blaenllaw hwn.
Cyllidir y bwrsariaethau gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
Llun: ‘The Senses’ gan Theatre A3 yng Ngŵyl GDIF 2016 – Hawlfraint/Doug Southall