Ymgynulliad Celfyddydau Awyr Agored Genedlaethol i Gymru
Dydd Gwener a dydd Sadwrn 9 a 10 Mawrth 2018, Aberystwyth
Diddordeb mewn creu celfyddyd fyw yn yr awyr agored yng Nghymru a thu hwnt?
Ymunwch ag ymarferwyr celf awyr agored eraill, arianwyr, gwyliau, rheolwyr tir a lleoliadau er mwyn rhwydweithio, rhannu syniadau a chreu prosiectau a phartneriaethau newydd.
Pum mlynedd ers y gynhadledd gyntaf yng Nghymru, dewch i ddathlu mudiad sy’n llawn bywyd ac yn tyfu.
Gyda’n gilydd gallwn …
– Gael ein hysbrydoli gan waith anhygoel, sgyrsiau a gweithdai
– Wledda yn hen Theatr y Colisseum
– Cyfrannu at gynllunio’r dyfodol gyda’n gilydd
– Fwynhau awyr agored Cymru, gyda’i gestyll, mynyddoedd a thraethau!
Mae croeso i ymarferwyr o bob celfyddyd, yn cynnwys theatr stryd, carnifal, ymdeithio, pypedwaith, syrcas a gosodiadau celf.
*Bwrsariaethau i fynychu*
*Llogwch cyn 20 Rhagfyr i dderbyn gostyngiad yn y pris*
Lawrlwythwch wahoddiad yma
Gwybodaeth lawn/ Prynu eich tocynnau – https://national-outdoor-arts-gathering-wales.eventbrite.com
Llun – Keith Morris