Prosiect sy’n gweithio ar draws 3 o leoliadau awyr agored ym Mhowys yw CELFLUN. Bydd elfen de Powys o’r prosiect Celflun yn cael ei gynnal o fewn cymuned Aberhonddu, a’i nod yw sefydlu cymuned o deuluoedd a phobl ifanc i gyd-greu gweithiau celf newydd mewn cydweithrediad gyda thri o artistiaid (neu gydweithrediadau) preswyl a benodir.
Mae’r prosiect yn ceisio ymgysylltu â’r gymuned mewn sgwrs ynghylch newid hinsawdd a’r argyfwng hinsawdd trwy arfer celfyddydol, gan ddod ag arbenigwyr amgylcheddol i mewn i’r prosiect i archwilio’r dirwedd ac ecoleg. Y safle tirwedd y mae’r prosiect hwn yn ceisio canolbwyntio arno yw’r Island Fields ar gyrion Tref Aberhonddu.
Cynghrair partneriaeth greadigol yw CELFLUN RHWNG Gwasanaeth Celfyddydol a Diwylliannol Cyngor Sir Powys, Cyfoeth Naturiol Cymru, Impelo, 4Pi ac Articulture.
Rydym yn gwahodd ceisiadau gan artistiaid, ymarferwyr creadigol neu grwpiau sy’n gweithredu ar y cyd ac sy’n byw neu’n gweithio ym Mhowys.
Dadlwythwch wybodaeth lawn trwy glicio yma – briff ARTSCAPE – Powys y de
Dyddiad cau ar gyfer cyflwyniadau: 12 canol dydd, dydd Llun 23 Awst 2021