Tirweddau Creadigol
Mannau agored ar gyfer prosiectau celfyddydau awyr agored newydd
Digwyddiad Byw Ar-lein
Dydd Gwener 25 Medi 2020
3pm – 4.30pm
Oes gennych chi syniad creadigol ar gyfer prosiect awyr agored newydd?
Ydych chi’n rheolwr tir sydd eisiau datblygu prosiectau neu ddigwyddiadau newydd?
Mae Articulture yn sefydliad sy’n ymroddedig i ddatblygu celfyddydau awyr agored yng Nghymru ac mae’n gwahodd pobl greadigol a rheolwyr tir o Gymru, Lloegr a thu hwnt sydd â diddordeb mewn gweithio fel hyn i alw heibio i fan agored anffurfiol i gael dishgled a thrafod syniadau, uchelgeisiau a chwestiynau.
Archebu lle – mae angen cofrestru am ddim o flaen llaw, anfonwch e-bost i: rosie@articulture-wales.co.uk i archebu eich lle.
Bydd y cyfranogwyr angen cysylltiad gwe dibynadwy a Zoom i gymryd rhan.
Mynediad – Cysylltwch â ni i drafod unrhyw ofynion mynediad sydd gennych ymlaen llaw, fel y gallwn ddarparu cyfleusterau i chi gymryd rhan. Mae Articulture yn croesawu pobl o bob cefndir, diwylliant a gallu gan gynnwys Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig / Person Croenliw, ffoadur, B/ byddar, anabl, niwroamrywiol, dosbarth gweithiol a/neu LGBTQI+.
Ynglŷn â Thirweddau Creadigol
Cyfres o bodlediadau a digwyddiadau byw ar-lein rhad ac am ddim yw Tirweddau Creadigol sy’n archwilio ac yn dathlu cydweithredu creadigol rhwng artistiaid, cynhyrchwyr a rheolwyr tir yng Nghymru ac ar draws ffiniau, a’r gwaith buddiol ac ysbrydoledig yn yr awyr agored y gall cydweithredu ffrwythlon ei greu.
Yn cael ei gynnal fel rhan o Ŵyl Afon Dyffryn Gwy – wedi’i hail-ddychmygu ar-lein ar gyfer 2020 – ac fel rhan o wythnos ‘Tirweddau am Oes’ Cymdeithas Genedlaethol yr Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol a gynhelir rhwng 21-25 Medi, mae Tirweddau Creadigol yn cael ei guradu gan Articulture, ar y cyd â thîm yr Ŵyl.
Mae’r ŵyl yn cael ei chefnogi gan Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Dyffryn Gwy, Croeso Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru.
Delwedds – Cynulliad Articulture – Credyd – Keith Morris