• Link to Articultire Wales twitter
  • Link to Articultire Wales facebook
ArticultureArticulture
  • Hafan
  • Amdanom Ni
    • Amdanom Ni
    • Articulture
  • Rhwydwaith
  • Byddwch yn Rhan
    • Arddangos
    • Creu
    • Tyfu
    • Archebu
  • Adnoddau
    • Directory
    • Eiriolaeth
  • Diweddaraf
  • Cysylltu
  • cyCymraeg
    • enEnglish
Press enter to begin your search
  • No menu assigned!

Creu Mewn Mannau Cyhoeddus: cwrs ar-lein am ddim yr Haf hwn 2020

  • 0

Ymunwch ag Articulture ac eraill ledled Cymru’r haf hwn i ddatblygu eich sgiliau a’ch dealltwriaeth o greu artistig mewn mannau cyhoeddus gyda chwrs ar-lein am ddim FAI-AR, ‘Creu Mewn Mannau Cyhoeddus’, sy’n dechrau ar ddydd Llun 13 Gorffennaf.

Beth yw man cyhoeddus? Pam fod artistiaid yn dewis gweithio yn y lleoedd anghonfensiynol hyn? Sut maent yn defnyddio’r ardaloedd hyn ar draws y byd? Pa fath o ddeddfwriaeth a nodweddion technegol sydd angen i weithwyr proffesiynol eu hystyried?

Crëwyd ‘Creu Mewn Mannau Cyhoeddus’, sy’n agored i unrhyw un sydd â diddordeb mewn creu a dysgu mwy am gelf mewn mannau cyhoeddus, gan FAI-AR, unig raglen hyfforddi addysg uwch Ewrop ar gelf mewn mannau cyhoeddus, mewn cydweithrediad â llwyfan IN SITU ledled Ewrop a sefydliad cenedlaethol Ffrainc Artcena.

Mae’r cwrs yn llawn adnoddau ac ysbrydoliaeth i’ch helpu i ddeall a chwarae rôl mewn creu artistig mewn mannau cyhoeddus. Dysgwch am wahanol waith celf sydd wedi’u dylunio ar gyfer mannau cyhoeddus, y ffordd y maent yn rhyngweithio gyda’u lleoliadau, a nodweddion penodol o ysgrifennu am y gynulleidfa a’u hymgysylltu yn y cyd-destun hwn.

Dyma oedd gan gyfranogwyr grŵp astudio gwanwyn i’w ddweud am y cwrs…

‘Ansawdd y cynnwys, manylrwydd y fframwaith deallusol, enghreifftiau hynod ddiddorol o waith’

‘Roedd yn brofiad mor werthfawr ac mae wedi ailgynnau fy joie de vivre creadigol’

‘Rwy’n credu bod pawb yn y grŵp yn agored ac yn hael iawn ac fe wnes i fwynhau’r cysylltiadau rydym wedi’u hadeiladu’

Wrth gymryd rhan yn grŵp astudio’r haf Cymru byddwch yn cwblhau 4 modiwl dros 4 wythnos. Bydd pob un yn cymryd tua 3 awr yr un i’w cwblhau yn eich amser eich hun. I gyd fynd â hyn, bydd trafodaethau grŵp astudio wythnosol ar ddyddiau Llun o 2pm-3pm, a hwylusir gan Articulture.  Gall aelodau grŵp hefyd gwrdd ar zoom hanner awr cyn y drafodaeth – 1.30pm-2pm – i gwrdd yn anffurfiol.

Mae’r grŵp astudio hwn yn croesawu pobl o bob cefndir, diwylliant a gallu yn cynnwys pobl o gefndiroedd du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, ffoaduriaid, pobl fyddar, anabl, niwro-ddargyfeiriol a dosbarth gweithio a/neu LGBTQI+. Rydym yn croesawu trafodaeth ar ofynion mynediad sydd gennych, a gallwn ddarparu cyfleusterau lle mae angen.

Dechrau dydd Llun 13 Gorffennaf, tan 10 Awst.

Ydych chi eisiau astudio gyda ni? E-bostiwch rosie@articulture-wales.co.uk i gofrestru eich diddordeb a thrafod unrhyw ofynion mynediad sydd gennych.

Roedd y prosiect yma’n bosibl gydag arian y Loteri Genedlaethol drwy Gyngor Celfyddydau Cymru.

  • Previous Project
  • Next Project
Outdoor Arts UK (External site) NASA UK (External site) Arts Council Wales logo
Tweets by @@Articulture_

Danysgrifiwch i'n rhestr bostio

© 2022 Articulture. All Rights Reserved. Registered Company No. 08643807

  • Link to Articultire Wales Twitter
  • Link to Articultire Wales Facebook
  • Hafan
  • Amdanom Ni
    • Amdanom Ni
    • Articulture
  • Rhwydwaith
  • Byddwch yn Rhan
    • Arddangos
    • Creu
    • Tyfu
    • Archebu
  • Adnoddau
    • Directory
    • Eiriolaeth
  • Diweddaraf
  • Cysylltu
  • cyCymraeg
    • enEnglish
  • Link to Articultire Wales twitter
  • Link to Articultire Wales facebook
Skip to main content
We use cookies on our website to give you the most relevant experience by remembering your preferences and repeat visits. By clicking “Accept All”, you consent to the use of ALL the cookies. However, you may visit "Cookie Settings" to provide a controlled consent.
Cookie SettingsAccept All
Manage consent

Privacy Overview

This website uses cookies to improve your experience while you navigate through the website. Out of these cookies, the cookies that are categorized as necessary are stored on your browser as they are essential for the working of basic functionalities of the website. We also use third-party cookies that help us analyze and understand how you use this website. These cookies will be stored in your browser only with your consent. You also have the option to opt-out of these cookies. But opting out of some of these cookies may have an effect on your browsing experience.
Necessary
Always Enabled
Necessary cookies are absolutely essential for the website to function properly. This category only includes cookies that ensures basic functionalities and security features of the website. These cookies do not store any personal information.
Non-necessary
Any cookies that may not be particularly necessary for the website to function and is used specifically to collect user personal data via analytics, ads, other embedded contents are termed as non-necessary cookies. It is mandatory to procure user consent prior to running these cookies on your website.
SAVE & ACCEPT