Wedi’u cysylltu gyda genfa, fel mae ceffyl a marchog, mae dau ddawnsiwr yn dod yn un creadur, yn crwydro o gwmpas. Ambell waith maent yn oedi i anghytuno, am fod y ddau eisiau symud mewn cyfeiriad gwahanol. Maent yn brwydro â’i gilydd, gyda’r ddau eisiau cipio rheolaeth, cyn iddynt ddod o hyd i ffordd i gyfathrebu a chydweithio.
Mae ‘Siarad â Cheffylau’ yn gwahodd y gynulleidfa i arafu –dyma ddarn swrrealaidd, cartrefol ei naws.
Comisiynwyd gan Articulture ar y cyd â Surge, Scotland, gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru, Llywodraeth Cymru a’r Loteri Genedlaethol.
Darn dieiriau.
I archebu’r gwaith hwn ar gyfer eich digwyddiad, cysylltwch â’r artist –