Hijinx Theatr – ‘Rock Cliche’
Ymhell cyn bod dewin a chynorthwy-ydd, golffiwr a chadi neu wleidydd ac embaras, roedd y seren roc a’r “roadie”. Rydym yn cwrdd â’n seren roc a’i “roadie” truenus ar ôl i bob aelod o’r band farw’n drasig mewn damweiniau ar y llwyfan. Yn Rock Cliché, mae dau berfformiwr niwrowahanol yn chwarae gyda’ch synhwyrau trwy gyfrwng gitâr awyr. A drymiau. Ac allweddell. Roc!
Cwmni theatr proffesiynol ac arobryn sydd â’i bencadlys yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd yw Hijinx ac mae’n mynd â sioeau theatr gynhwysol ar daith ledled y DU ac yn rhyngwladol.
Llafar. Ar gael yn Saesneg.
I archebu’r gwaith hwn ar gyfer eich digwyddiad, cysylltwch â’r artist –
Crëwyd gan Hijinx, gyda chefnogaeth Articulture, Celfyddydau Anabledd Cymru, a Cyngor Celfyddydau Cymru, y Gronfa Loteri Fawr, a Chynulliad Cymru.
Delwedd – Rock Cliche – Keith Morris
Trelar ffilm – Hijinx Theatr