Daeth ‘BLOCK’, sioe newydd sbon gyffrous Motionhouse a NoFit State Circus, i bedwar lleoliad yng Nghanolbarth Cymru yn Awst 2016.
Fe’i trefnwyd gan Articulture, ac fe’i cefnogwyd gan The Magic Lantern Cinema a Cyfoeth Naturiol cymru. Yn y perfformiad arbennig hwn mae ugain o flociau enfawr yn cael eu tynnu oddi wrth ei gilydd a’u hail-drefnu’n amrywiaeth o siapiau i’r perfformwyr chwarae arnyn nhw, eu symud a’u harchwilio. Beth sy’n digwydd pan fo dawns a syrcas yn gwrthdaro? Pan maent yn dod at ei gilydd, rhwbio yn erbyn ei gilydd, toddi i mewn i’w gilydd?