Mae cyfarfodydd celfyddydol Articulture yn gyfres barhaus o gyfleoedd i gysylltu ag eraill drwy Gymru a thu hwnt a gweld y gorau o’r gwaith celf awyr agored newydd. Maent yn cael eu cynnal gan Articulture, ac maent yn anffurfiol, cyfeillgar ac yn agored i bawb. Mae cacennau neu hufen ia neu’r ddau ym mhob un.
Ymunodd tîm Articulture a nifer o artistiaid o Gymru ag artistiaid awyr agored a hyrwyddwyr o bob cwr o’r Deyrnas Unedig ac Ewrop yng Ngŵyl Ryngwladol enwog Greenwich a Docklands ac Arddangosfa Xtrax Professional.
Roedd nifer cyfyngedig o fwrsariaethau ar gael i artistiaid o Gymru fynd i’r digwyddiad hwn, wedi’u hariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru.