Dyma’r artistiaid syrcas o ogledd Cymru Daisy Williams a Paula Renzel yn cyflwyno
Wattle & Daub, bêbs y byd harddwch – a harddu, harddu, harddu pawb
maen nhw’n gallu cael gafael arnyn nhw ydi’r nod. Allwch chi ddim peidio â chynhesu atyn nhw – calon enfawr, er eu bod nhw’n ceisio’u gorau i daro bargen wael. Gyda golwg absẁrd ar ddiwydiant harddwch heddiw, bydd y cwpwl yn dawnsio o gwmpas yma ac acw gan hudo ‘gwirfoddolwyr’ yn ddiarwybod i ddihangfa rhag realiti yn eu salon dros dro ar ochr y ffordd, lle maen nhw’n gwerthu pob math o betheuach amheus.
Cafodd Daisy a Paula, y ddwy yn artistiaid syrcas a theatr wedi’u lleoli yng ngogledd Cymru, eu cyflwyno am y tro cyntaf ym Mhentref Syrcas NoFit State yn 2021, ac ers hynny, maen nhw wedi cydweithio ar brosiectau megis comisiwn Articulture WOAC, ‘Holes’ gan Karina Jones a chynhyrchiad newydd Cimera, ‘Gorgys’. Mae’r perfformiad cerdded o gwmpas newydd hwn yn gyfle iddynt uno i greu digwyddiad hurt bost, hollol ddifyr.
Instagram: @pretzelarts @daisy_cirque
Cefnogir Comisiynau Celfyddydau Awyr Agored y Pedair Gwlad ar gyfer 2024 gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Creative Scotland, Articulation, Cyngor Celfyddydau Iwerddon, Outdoor Arts UK ac ISACS.