Cyflwynir The Museum of Memorable Trees gan y cynllunydd aml-ddisgyblaethol Harry Pizzey, sydd wedi’i leoli yng Nghaerdydd. Gadewch i’r curadur eich arwain drwy’r arddangosfa wrth i chi wrando ar hanesion atgofus am goed mawr sydd wedi gwau eu hunain i fywydau ac i gof pobl. Cewch eich cludo i gyfnodau gwahanol a llefydd gwahanol wrth i chi ddarganfod dioramâu symudol wedi’u creu’n fedrus ac sy’n darlunio’r straeon coediol yma. Mae llefydd o hyd i’w cael yn yr amgueddfa hon, oes gennych chi goeden y gallwch chi ei chyfrannu?
www.harrypizzeydesign.co.uk
Cefnogir Comisiynau Celfyddydau Awyr Agored y Pedair Gwlad ar gyfer 2024 gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Creative Scotland, Articulation, Cyngor Celfyddydau Iwerddon, Outdoor Arts UK ac ISACS.