Yn 2015 ymunodd Articulture â Gŵyl Ryngwladol Greenwich+Docklands (GDIF), XTRAX a Creu Cymru i roi bwrsariaethau i arlunwyr a sefydliadau celfyddydol yng Nghymru i weld gwaith awyr agored newydd, rhwydwaith a mynd i sesiynau proffesiynol allweddol yn Arddangosfa XXTRAX.
Trwy’r bwrsariaethau hyn, y nod oedd creu arena ehangach o rannu, cysylltiadau a chydweithrediadau ar gyfer datblygu celfyddydau awyr agored yng Nghymru, ynghyd â chychwyn presenoldeb Cymraeg amlwg yn y digwyddiad rhyngwladol blaenllaw hwn.
Gŵyl Rhyngwladol Greenwich+Docklands (GDIF) yw prif ŵyl Llundain ar gyfer celfyddydau perfformio am ddim (theatr, dawns, syrcas a chelfyddydau stryd). Mae hwn yn ddathliad 9 diwrnod blynyddol o ddigwyddiadau awyr agored sy’n trawsnewid bywydau pobl.
Mae XTRAX yn cynorthwyo prosiectau, gwyliau ac arddangosiadau perfformio awyr agored arloesol gan arlunwyr y DU a rhyngwladol.
Dogfennaeth
Blog arlunydd gwadd – Ruth Stringer