Dydd Sul 18 Awst, 11:00am – 1pm, Gŵyl y Dyn Gwyrdd, Crucywel, Powys
Ydych chi’n mynd i Ŵyl y Dyn Gwyrdd eleni? Ymunwch ag Outdoor Arts UK wrth iddynt ymuno ag Articulture a Gŵyl y Dyn Gwyrdd i gynnal cymal Cymru o daith haf flynyddol Outdoor Arts UK.
Mae’r digwyddiad yn cynnwys cyfle i ddysgu mwy am yr ŵyl groesawu, i gael gwybodaeth am waith Outdoor Arts UK, a chyfrannu at drafodaeth agored fywiog am fater cyfoes sy’n effeithio ar y sector. Bydd y digwyddiad yn dechrau gyda chyflwyniadau byr, i chi gael ehangu eich rhestr gysylltiadau a rhoi wyneb i ychydig o enwau, a bydd yna gyfle i rannu gwybodaeth, newyddion a syniadau gyda chyd-gynhyrchwyr, rhaglenwyr ac artistiaid.
Byddwn yn darparu lluniaeth ysgafn mewn amgylchedd cyfeillgar ac anffurfiol. Mae croeso i unrhyw un sydd â diddordeb yn y Celfyddydau Awyr Agored ddod draw, gan gynnwys gwirfoddolwyr, artistiaid lleol ac ymarferwyr, ac unrhyw sy’n meddwl y gallent elwa ar ddysgu mwy am y sector Celfyddydau Awyr Agored.
Mae’r amseriad wedi’i gynllunio o amgylch rhaglen yr ŵyl, ac rydym wedi ceisio ei wneud mor gynhwysol â phosibl fel bod artistiaid sy’n perfformio yn gallu dod draw, ond mae croeso i chi daro i mewn ac allan o’r digwyddiad ar unrhyw adeg.
Mae’r digwyddiad hwn yn rhad ac am ddim, ac nid oes angen archebu lle. Pawb i gyfarfod yn yr Ystafell Werdd, y tu cefn i Ardal y Celfyddydau Perfformio.
Sylwer: nid yw tocyn mynediad i Ŵyl y Dyn Gwyrdd wedi’i gynnwys ac mae rhaid prynu tocyn ar wahân i sicrhau mynediad i’r digwyddiad www.greenman.net.