Kitsch & Sync – ‘Rhamant ar y Palmant’
Chwilio am gariad? Styc ar y silff? Teimlo fel Dilys dim dêts? Peidiwch a phoeni, dyma’n derbynfa retro i drafod unrhyw anghenion dêtio!
Dewch i gwrdd a Miss Suzie Sws, Ceri Gari and Blodyn Tatws, peidiwch bod yn swil!
Perfformiad theatr ddawns rhyngweithiol fydd yn crwydro’r maes.
Llafar. Ar gael yn Gymraeg ond bydd yn gweithio i gynulleidfaoedd o unrhyw iaith.
I archebu’r gwaith hwn ar gyfer eich digwyddiad, cysylltwch â’r artist –
www.kitschandsync.co.uk
Crëwyd gan Hijinx gyda Morgan Thomas, gyda chefnogaeth gan Articulture, Cyngor Celfyddydau Cymru, Llywodraeth Cymru a’r Loteri Genedlaethol.
Delwedd – Kitsch n Sync
Ffilm – Articulture @ Machynlleth Comedy Festival