
Ydych chi’n ymarferydd celfyddyd lleol i Fachynlleth?
Allech chi ychwanegu rhywfaint o hud i Ŵyl Gomedi Machynlleth?
Yn 2018, fe wnaethom gydweithio ag Articulture Wales i gomisiynu momentau arbennig o hud gan ymarferwyr celfyddydol lleol a ymddangosodd a diflannodd dros benwythnos yr ŵyl. Roedd y cydweithwyr celfyddydol a gomisiynwyd yn cynnwys: Phil Wheeler – ‘Impromptu Orchestra’, Zoe Matthews – ‘The Music Within lanterns’, Caitlin Shepherd and Adam Thoroughgood – ‘Machynlleth Rocks’, Free Range Designs ac Esther Tew – ‘The Chair’.
Yn 2019, rydym eto’n gwahodd unrhyw un sy’n gweithio mewn unrhyw gyfrwng sy’n byw ym Machynlleth neu’n agos i ddychmygu, creu a chyflwyno ‘momentau o hud’ yn yr awyr agored o amgylch y dref – i’w mwynhau gan bawb, waeth a ydynt yn mynychu unrhyw sioeau ai peidio.
Gallai’r rhain fod yn osodiadau cyfoes rhyngweithiol neu berfformiadau unigol. Rydym yn chwilio am artistiaid / peirianwyr / crefftwyr / gwneuthurwyr lleol i gydweithio i greu pethau neu ddigwyddiadau annisgwyl ar hyd y llwybrau sy’n cysylltu lleoliadau’r dref.
Bwriad y momentau o hud yw ategu’r Ŵyl Gomedi ac nid o reidrwydd i fod yn ddoniol.
Y dyddiad cau ar gyfer cynigion yw Llun 4 Ebrill.
Os oes gennych ddiddordeb mewn darganfod mwy, e-bostiwch sarah@articulture-wales.co.uk neu ffoniwch Sarah ar 07775 781897.