Mae’r ddeuawd theatr dawns, “Ceirw”, yn archwilio tuedd Bod Dynol i fod eisiau dofi a rheoli ei amgylchedd naturiol, a adroddir drwy ddau gymeriad, Carw ac Ewig.
Comisiynwyd gan Articulture, mewn cydweithrediad â Chonsortiwm Comisiynu Celfyddydau Awyr Agored Cymru. Cefnogir gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
I archebu’r gwaith hwn ar gyfer eich digwyddiad, cysylltwch â’r artist – www.citrusarts.co.uk