Dyddiau Dawns Taliesin yn dechrau’r Haf | Digwyddiadau Rhwydweithio Gŵyl

By 12th Gorffennaf 2019Uncategorised @cy

*Heidiwch i strydoedd Abertawe* y penwythnos yma ar gyfer Dyddiau Dawns Taliesin, sy’n dechrau tymor o ddigwyddiadau cyffrous yn arddangos celfyddydau awyr agored rhyfeddol, a *Ffowch i’r bryniau* ar gyfer dau ddigwyddiad rhwydweithio yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd ac Eisteddfod Genedlaethol Cymru. #Celfyddydauawyragoredcymru2019

Dyddiau Dawns Taliesin yn dechrau tymor o ddigwyddiadau celfyddydau awyr agored rhyfeddol ledled Cymru

Heidiwch i strydoedd Abertawe’r penwythnos yma i fwynhau Dyddiau Dawns Taliesin sy’n dechrau tymor o ddigwyddiadau cyffrous yn arddangos celfyddydau awyr agored rhyfeddol ledled Cymru.

Dewch i helpu i Hela’r Twrch Trwyth (yn y llun uchod).  Bydd cyfle hefyd i weld gweithiau celf awyr agored newydd a gomisiynwyd gan Articulture, Consortiwm Celfyddydau Awyr Agored Cymru, a phartneriaid eraill, mewn llu o ddigwyddiadau cyffrous –

Dyddiau Dawns Taliesin 13 – 14 Gorffennaf, Abertawe
Gwledd Syrcas Pontio – 18 – 27 Gorffennaf, Bangor
Gŵyl Sblash Mawr Theatr Glan yr Afon, 20 – 21 Gorffennaf, Casnewydd
Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Llanrwst- 5 Awst, Llanrwst
Gŵyl y Dyn Gwyrdd – 16 a 17 Awst, Crycywel
Gŵyl Fwyd y Drenewydd – 7 – 8 Medi, Theatr Hafren, y Drenewydd
LLAWN, Penwythnos Celfyddydau Llandudno – 14 -15 Medi

….a thu hwnt yn yr Alban yng Ngŵyl SURGE 27-28 Gorffennaf, Glasgow.

Sesiwn Haf #2 – Sut gallwn greu a rhaglennu mwy o gelfyddydau awyr agored yn y Gymraeg?

12:00 – 2:00, Sadwrn 3 Awst, AGORA, Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Llanrwst.

Ymunwch ag ymarferwyr celfyddydol blaenllaw Cymru Elen ap Robert, Marc Rees, Eddie Ladd ac aelod o dîm artistig yr Eisteddfod mewn sgwrs greadigol yn trafod sut gallwn greu a rhaglenni celfyddydau awyr agored newydd o safon uchel yng Nghymru.

Bydd y drafodaeth yn cael ei gynnal yng ngofod ‘AGORA’ sy’n adeilad dros dro wedi ei gomisiynu gan yr Eisteddfod (cefnogwyd gan Croeso Cymru) a’i greu gan Marc Rees mewn cydweithrediad â Jenny Hall a Tabitha Pope, a’i gynhyrchu gan Iwan Williams (ffiwsar).  Bydd cinio ysgafn a PIMMS i ddilyn yng Nghaffi’r Theatrau.

I gael gwybodaeth lawn yma

Taith Outdoor Arts UK 2019 @ Ngŵyl y Dyn Gwyrdd

Dydd Sul 18 Awst, 11:00am – 1pm, Gŵyl y Dyn Gwyrdd, Crucywel, Powys

Ydych chi’n mynd i Ŵyl y Dyn Gwyrdd eleni? Ymunwch ag Outdoor Arts UK wrth iddynt ymuno ag Articulture a Gŵyl y Dyn Gwyrdd i gynnal cymal Cymru o daith haf flynyddol Outdoor Arts UK.

Mae’r digwyddiad yn cynnwys cyfle i ddysgu mwy am yr ŵyl groesawu, i gael gwybodaeth am waith Outdoor Arts UK, a chyfrannu at drafodaeth agored fywiog am fater cyfoes sy’n effeithio ar y sector. Bydd y digwyddiad yn dechrau gyda chyflwyniadau byr, i chi gael ehangu eich rhestr gysylltiadau a rhoi wyneb i ychydig o enwau, a bydd yna gyfle i rannu gwybodaeth, newyddion a syniadau gyda chyd-gynhyrchwyr, rhaglenwyr ac artistiaid.

I gael gwybodaeth lawn yma

Skip to main content