A ydych chi’n unigolyn creadigol wedi’ch lleoli yng Nghymru sy’n dymuno gwneud gwaith awyr agored newydd yn yr iaith Gymraeg a’i anfon ar daith eleni?
Mae Articulture, mewn cydweithrediad ag Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Gŵyl Gomedi Machynlleth a Chymdogion Celtaidd yn cynnig cyfle i greu darn o waith awyr agored newydd trwy gyfrwng y Gymraeg.
Yn ogystal â chefnogaeth i greu gwaith, bydd yr unigolyn creadigol a ddewisir hefyd yn derbyn mentora a’r cyfle i arddangos y gwaith yn yr Eisteddfod a’r Ŵyl Gomedi.
Mae’r comisiwn Gwaith yn yr Iaith Gymraeg yn un o gyfres o gomisiynau strategol sydd dan brawf yn 2019 gyda’r nod o gynyddu’r amrywiaeth o artistiaid, rhaglenwyr a chynulleidfaoedd yng Nghymru sydd ynghlwm â gwaith awyr agored. Mae eraill yn cynnwys gwaith ar y cyd gydag unigolion creadigol o’r gymuned BAME (Croenddu, Asiaidd neu Leiafrifoedd Ethnig), a’r gymuned Anabl.
Mae croeso i artistiaid sy’n gwneud cais i un o’r comisiynau strategol wneud cais i Consortiwm Celfyddydau Awyr Agored Cymru hefyd.
Lawrlwythwch wybodaeth a ffurflen gais yma
Rhaid i bob ymgeisydd hefyd lenwi ffurflen cyfle cyfartal
Dyddiad Cau 1 Mawrth 2019.
Angen ysbrydoliaeth? Gweler comisiynau blaenorol gan Articulture a’i bartneriaid yma
Delwedd – Dripping Tap Theatre Company – LLLAWN 2017