
Just more – ‘Do what yah Mama told yah!’
Bydd y sioe syrcas gomedi drochol a fywiog hon yn cynnig gwledd o gyfuniadau bwyd ac adrodd storiâu ar draws daearyddiaeth a’r cenedlaethau.
Bydd Blaze yr artist syrcas gyfoes rhyngwladol, a Fatina y cogydd a’r perfformiwr syrcas teithiol, sy’n fam a merch, yn perfformio sioe a fydd yn cynnwys troelli platiau, jyglo gyda bwyd a thân. Bydd y ddwy hefyd yn dod â chegin y teulu a’i ryseitiau o bedwar ban byd yn fyw. Ymunwch â nhw ar eu taith hwyliog a fydd yn diweddu gyda sioe hwla wych.
Comisiynwyd gan Gonsortiwm Comisiynu Celf Awyr Agored Cymru. Cefnogwyd trwy Articulture gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Llywodraeth Cymru a’r Loteri Genedlaethol.
I archebu’r gwaith hwn ar gyfer eich digwyddiad, cysylltwch â’r artist –
https://www.facebook.com/JustMoreP/
Delwydd – Do what yah Mama told yah! – Big Splash Festival – Kirsten McTernan