Bwrsariaethau gŵyl ryngwladol newydd + sesiynau’r Haf yn cychwyn!

By 25th Ebrill 2019Uncategorised @cy

Mae’r gwanwyn wedi cyrraedd! Darllenwch ymlaen am newyddion am gyfres newydd Articulture, o Sesiynau Celfyddydau Awyr Agored yr Haf mewn digwyddiadau penodol ar draws Cymru yn cychwyn yn Mai, yn ogystal â bwrsariaethau i ymweld â Gŵyl Ryngwladol enwog Greenwich & Docklands a Chanolfan Gelfyddydau Awyr Agored y DU ym mis Mehefin.

Sesiwn Haf #1 – Pam creu a rhaglennu celfyddydau awyr agored yn y Gymraeg?

Sul 5 Mai, Gŵyl Gomedi Machynlleth, 10.30am – 12pm.

Fe’ch gwahoddir chi i sesiwn gyntaf Articulture Haf 2019, sy’n cynnwys gweithgareddau rhwydweithio a thrafod gyda arweinwyr blaenllaw yn y maes yn edrych ar themau cyfoes mewn digwyddiadau ar draws Cymru.

Sioned Edwards, Dirprwy Bennaeth Artistig Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Cêt Haf, perfformwraig, a Jeremy Turner, Cyfarwyddwr Artistig Cwmni Theatr Arad Goch, yn trafod eu profiadau o raglennu a chreu gwaith yn yr awyr agored yn yr iaith Gymraeg.  Hyn oll dros baned a chacen!

I archebu tocyn, cysylltwch â rosie@articulture-wales.co.uk
i gael gwybodaeth lawn yma

Bwrsariaethau – Greenwich & Docklands International Festival 2019

Dydd Gwener 21 – Dydd Sul 23 Mehefin, Llundain

Mae bwrsariaethau ar gael i artistiaid a sefydliadau celfyddydol o Gymru sydd â diddordeb yn y celfyddydau awyr agored neu sy’n gweithio yn y maes, i weld gwaith newydd, rhwydweithio ac i fynychu sesiynau proffesiynol yn y prif ddigwyddiad celfyddydau awyr agored, Gŵyl Ryngwladol Greenwich & Docklands.

Yn ogystal, mae hyn yn cynnwys y cyfle i gymryd rhan yn Hyb Gŵyl GDIF, a gynhelir gan Outdoor Arts UK, gyda rhaglen lawn o weithgareddau rhwydweithio a datblygiad proffesiynol.

I gael gwybodaeth lawn yma
Dyddiad cau 17 Mai 2019

 

Delwedd – Teatro dei Venti – ‘Moby Dick’ – Greenwich & Docklands International Festival

Skip to main content