Articulture.

 

Mae Articulture yn cefnogi datblygiad celfyddydau awyr agored arloesol ac o ansawdd dda a chynulleidfaoedd ymgysylltiedig amrywiol yng Nghymru.

Rydym yn gweithio gyda chymuned o gydweithwyr amrywiol i –

 

Dyfu

Mae mabwysiadu cymuned o gydweithwyr o ystod eang o sectorau celfyddydol a di-gelfyddydol yn gwneud creu ac arddangos celfyddydau awyr agored yn bosibl. Mae hyn yn cynnwys cynnig ystod eang o gyfleoedd rwydweithio a datblygu.

 

Creu

Gweithiwn ochr yn ochr ag artistiaid sydd yng nghamau gwahanol o’u gyrfaoedd i greu gwaith newydd i gynulleidfaoedd yng Nghymru a thu hwnt. Ein ffocws yw cynyddu ac amrywio’r gwaith sy’n cael ei greu, y gronfa o artistiaid sy’n gwneud y gwaith hwn a’r cynulleidfaoedd sy’n ei brofi.

 

Arddangos

Rydym yn cysylltu â phartneriaid cenedlaethol a rhyngwladol i ddarparu llwyfannau i artistiaid Cymru. Ein blaenoriaeth yw gwasanaethu cynulleidfaoedd Cymreig, fodd bynnag rydym hefyd yn cydnabod pwysigrwydd codi proffil y tu hwnt i Gymru er mwyn cyflawni gyrfaoedd cynaliadwy i artistiaid sy’n byw ac yn gweithio yma.

Cawn ein hysgogi gan y gred bod gan gelfyddyd awyr agored allu unigryw a grymus i annog cyfranogiad eang a phartneriaethau cyd-fuddiol ar draws holl sectorau”r gymdeithas, sy’n helpu i ddatblygu cymunedau mwy cynaliadwy yng Nghymru.

Rydym yn dîm sydd â hen angerdd am gelfyddyd awyr agored a phrofiad helaeth ohono. Rydym yn gwrando, cysylltu a hwyluso i wneud newid hirdymor. Gan weithio o gwmpas ein bwrdd bwyd yng nghefn gwlad Canolbarth Cymru, rydym yn deall yr heriau uniongyrchol o wneud gwaith yng Nghymru, ac mae hyn yn sail i’r ffordd y gweithiwn – yn hyblyg ac ar y cyd, gan feddwl am Gymru gyfan.

Mae Articulture yn aelod gweithredol o rwydweithiau rhyngwladol allweddol celfyddydau awyr agored gan gynwys y rhwydwaith European Circus and Street arts, Circostrada, yn ogystal ag Outdoor Arts UK a’r National Association of Street Artists.

Skip to main content